Gwrandewch ar atgofion Meinwen...
"Yn yr amser cyn y rhyfel mewn pentref bach yn y wlad, dim ond rhyw ddwy neu dair o siopau oedd yna, doedd yna ddim llawer o anrhegion i'w prynu! Doeddwn i ddim yn gwybod lot am y Nadolig, nac yn dallt fod Santa Clôs yn dod i lawr y simnai! Byddwn yn cael slipars, coban neu ryw gap gweu.
"Dwi ddim yn cofio gofyn i'r plant y diwrnod wedyn 'Be gest ti i 'Dolig?' - roedd 'na gartrefi â lot o blant oedd yn cael fawr o ddim.
"Yr unig beth oedd i'w gael yn y siopa oedd rhyw hen hosan 'Dolig wedi ei gwneud allan o net, llawn o 'sgraps' y byddech chi'n ei rhoi mewn dŵr, a'i roi ar eich llaw a'i dynnu, a gwneud rhyw lun ar eich llaw, a chwistl efallai.
"Y peth dwi'n cofio ei gael a roddodd bleser mawr i mi oedd siâp dol mewn llyfr oedd yn sefyll i fyny, fel cardbord, a thu fewn roeddech yn gallu torri gwisgoedd allan i'w rhoi amdani. Cadwodd fi'n dawel am wythnosau! Roedd ganddi gap a ffwr rownd iddo, a ffrog gwta oedd yn ffwr i gyd. Dwi'n cofio gofyn 'Beth mae hi'n ei wneud yn hwn?' 'Sglefrio' meddai mam - ond fyse chi ddim yn mynd allan i ben mynydd lle roeddwn yn byw wedi gwisgo fel yna!
"Doedd ganddon ni ddim coeden Dolig ond byddai fy nhad yn mynd allan ryw wythnos cyn 'Dolig i dorri sbrigyn o gelyn, ac mi fydden ni'n rhoi trimings bach arno.
"Doeddwn i ddim yn galw gwasanaeth bore 'Dolig yn blygain, ond byddai pob capel yn dod at ei gilydd i ganu carolau - roedd gan bob teulu eu carol eu hunain, ac yn cymryd eu tro i'w ganu mewn harmoni."
A beth am Nadolig yn Llanfairtalhaearn? Dyma hanesion Ella Jones.
"Roeddwn yn byw yn Llanfairtalhaearn a noson Nadolig oedd yr amser i drimio'r tŷ - y bocs yn dod allan, pawb yn brysur yn gwneud y gorau i'r celyn, a phethau eraill roeddem wedi gwneud fel plant. Gŵydd fyddem gael i'r Nadolig, a thwrci i'r flwyddyn newydd.
"Doedd yna ddim trydan, felly canu o gwmpas y piano fysen ni i gyd, mewn pedwar llais - os nad oedd dad yn gwybod y bâs, roedd yn rhaid ei ddysgu'n gyflym!
"Roeddem yn cael hosan, ond dwi ddim yn cofio lot ynddo - oren a rhyw ffrwyth, nad oeddwn yn ei gael yn aml iawn yn y 1940au, er, dwi'n cofio cael pethau i'w wneud, fel eda' i wneud pwyth groes, pethau i weu ac ychydig o lyfrau weithiau. Ond roeddem yn byw ar fferm ac roedd yr anifeiliaid angen cael bwyd, felly diwrnod fel arfer oedd y Nadolig ar y cyfan.
"Doedd yna ddim plygain na gwasanaeth yn y capel, os nad oedd y Nadolig ar ddydd Sul, ond roedd 'na eisteddfod pwysig iawn ym Metws yn Rhos."
Mwy o atgofion criw Merched y WawrGwneud cyflaith