Gwŷl Bwyd Môr Llŷn, Gorffennaf 4 a 5, 2008 Caiff yr ŵyl fwyd môr yma ei chynnal ym Marina Pwllheli. Bwriad yr ŵyl ydy bod yn ffenestr siop ar gyfer diwydiant bwyd môr yr ardal ac mae'n cael ei chynnal gan Gymdeithas Pysgotwyr Llŷn. Mae'r gwaith wedi dechrau eisoes i drefnu gŵyl 2008 ac mae'r trefnwyr yn ystyried newid yr enw yn Saesneg i The Llŷn Fine Food, Drinks and Seafood Festival ac yn croesawu unrhyw sylwadau neu syniadau. Ewch i am fwy o wybodaeth (gwefan Saesneg).
Gŵyl Llymarch Môn, 10 - 12 Hydref 2008 Gwesty Bae Trearddur. Ffair fwyd efo cegin arddangos. Cyfle i flasu cynnyrch o safon a chyfarfod y cynhyrchwyr. Mynediad am ddim. Mwy o fanylion 01248 725700. Gwefan:
Gwledd Conwy, 26 a 27 Hydref 2007 Mae tref Conwy gyfan yn cael ei throi yn ddathliad o bopeth i'w wneud â bwyd bob mis Hydref - o'r cynnyrch lleol gorau i stondinau o Brydain gyfan a thramor. Gŵyl Fwyd Blaenau Ffestiniog, 6 Rhagfyr 2007 Gŵyl oedd yn cyd-fynd â Diwrnod Goleuo 'Stiniog.
Rydyn ni'n gobeithio ychwanegu mwy am wyliau bwyd yr ardal ar y dudalen hon. Os hoffech chi ddweud wrthym am ŵyl fwyd arall - gadewch inni wybod. Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
|