Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bwyd a diod

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cig Glasfryn, Pen Llŷn Gŵyl Fwyd Blaenau Ffestiniog
Bu criw bws y Â鶹Éç yng Nghŵyl Fwyd Blaenau Ffestiniog yn profi cynnyrch yr ardal. Dewch ar daith flasu o amgylch y stondinau...

gwrando Keith Williams a chig Glasfryn

Keith Williams a chynnyrch stâd Glasfryn.

Mae Keith Williams yn gweithio i stâd Glasfryn, Pen LLŷn, sy'n cadw Gwartheg Duon Cymreig. Mae'r brid yma yn cael ei gydnabod am safon uchel y cig. 'Da ni'n neud o yn y ffor hen ffasiwn,' meddai Keith, 'da ni'n i hongian nhw am dair wythnos cyn bo ni'n hyd yn oed yn sbio arno fo..mae hyn yn gwneud y cig yn fwy tyner..'

gwrando Olew Calon Lan

Rhydian Owen yn sôn am olew Calon Lan.

Mae cwmni ifanc Calon Lan yn cynhyrchu olew allan o Afocado, Cywarch (hemp) a Camelina. Mae'r rhain yn dda iawn i'r corff. Medd Rhydian Owen ar ran y cwmni, 'mae'r tri olew yn unigryw iawn, ma' nhw'n iachus, yn llawn omega-3..'

gwrando Melfyn Thomas yn coginio cig moch â garlleg a madarch

Melfyn Thomas yn coginio.

Bu'r cogydd Melfyn Thomas yn coginio ychydig o'r cynnyrch a oedd ar werth yn yr ŵyl. Gwrandewch arno'n ffreio cig moch gyda garlleg, madarch a chennin mewn hufen a menyn. Meddai, 'Ma'r reseit ma'n reit boblogaidd..dio'm ryw gant y cant yn iach i ni efo'r holl fenyn a'r hufen ond mae'n reit braf cael rywbeth bach yn wahanol weithiau.'

gwrando Porc cwmni Traedmoch

Huw o gwmni Traedmoch.

Dyw hi ddim yn syndod mai porc yw cynnyrch cwmni Traedmoch, o Benrhynydyn, Rhydyclafdy, Pwllheli. Dim ond moch eu hunain mae'r cwmni'n eu defnyddio ac mae'r moch yn cael y gofal a'r bwyd gorau. Meddai Huw Gruffudd, o'r cwmni, '..da ni'n tyfu 'u bwyd nhw i gyd, da ni'm yn cael pryd wedi prynu allan o fagiau, felly..'

gwrando Cwrw Mŵs Piws

Ydych chi wedi yfed cwrw Mŵs Piws?

Sefydlwyd bragdy Mŵs Piws ym Mhorthmadog yn 2005 ac ers hynny mae'r cwrw wedi ennill nifer o wobrau. 'Mae gynnon ni bedwar math o gwrw gwahanol a mae gynnon ni gwrw arbennig dros y flwyddyn igyd.. mae gynnon ni gwrw Nadolig ar hyn o bryd..'



Lleol i Mi
Radio Cymru
Eisteddfodau


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý