Cyn hynny, dim ond ar y teledu roedd y cyn weithiwr efo'r Post Brenhinol wedi gweld cyfrifiadur a 'doedd o erioed wedi cymryd diddordeb mewn ffotograffiaeth! Bellach mae wedi ennill gwobrau am ei ddoniau cyfrifiadurol a dechreuodd dynnu lluniau ar ôl prynu camera digidol rhad o'i archfarchnad leol. Fel mae'r daith luniau hyfryd yma o'r ardal yn ei ddangos, chymerodd hi ddim yn hir iddo feistroli'r grefft. "Rydw i'n defnyddio Samson digi-max 340 erbyn hyn," meddai. "Ac mae gen i gamera binoculars sy'n caniatáu imi dynnu lluniau agos hefyd. Mae'r wraig yn dweud mod i'n mynd allan yn amlach o lawer nag oeddwn i rŵan!" ychwanegodd. Cysylltwch i anfon eich lluniau neu'ch hanes chi.
|