Bu'n siarad am ei blentyndod yn y Faenol mewn aduniad gyda rhai o gyn weithwyr y stâd ynghyd â Charlie Duff, yr aelod olaf o'r teulu i gael ei fagu yno. Fe ymddangosodd ar raglen arbennig ar Â鶹Éç 2 am hanes y Faenol yn ystod yr wythnos cyn yr Eisteddfod."Daethom i fyw yma ym mis Medi 1946 pan oeddwn yn naw mlwydd oed. Roedd fy nhad, George Randall, yn chauffeur i'r teulu ac mi ddaru fyw yma ar y stâd tan iddo farw yn 1987.
"Daeth ein teulu yma o'r Isle of Wight yn y 1900au, efo'r Asheton-Smiths i'r Faenol ac roedden ni wedi bod yn weision iddyn nhw erioed. Syr Michael Duff oedd y diwethaf o'r Asheton-Smiths a fy nhad oedd y diwethaf o'r Randells i weithio i'r teulu
"Mae'r lle wedi newid ers i mi fyw yma - dydy o ddim fel oedd o, ac mae'n bechod. Pan roeddwn i'n byw yma, roedden ni fel teulu mawr, dim unigolion. Roedd yn lle strict i gael eich magu, ond eto, wrth sbïo nôl, roedd yn ffordd iawn o gael eich dwyn i fyny - roedden ni'n cael ein dysgu i barchu pobl yn well na maen nhw heddiw.
"Roedd fy nhad yn strict gan ei fod yn gweithio i Syr Michael, ac roedd ganddo ofn i mi ddweud neu wneud rhywbeth o'i le rhag iddo gael y sac. Felly pan oedd Syr Michael adref doedden ni ddim yn cael mynd ar y lawnt nac i lawr y prif ddreif; roedd yn rhaid i ni ddefnyddio'r lodges eraill. Doedd na ddim tai cyngor yr adeg honno felly roedd dad yn byw mewn ofn o gael y sac gan nad oedd 'na unlle arall i fyw.
"Pan ddaeth Charlie yma yn fabi roeddwn i'n 11 mlwydd oed a dwi'n ei gofio fo'n dŵad. Nanny Rattle oedd enw ei nani ac roedd pawb ei hofn hi! Nanny Cave ddaeth ar ei hôl hi.
"Roedd y stâd fel byd ar ei ben ei hun. Roedd y dreifs wastad yn werth eu gweld - ac mi fydden nhw'n tyfu grawnwin, nectarins ac eirin gwlanog yn y tai gwydr a llysiau yng ngardd y gegin. Roedd y lle mor lân a thwt, mae'n bechod gweld y lle wedi dirywio.
"Roedd lot o staff i wneud y gwaith i gyd flynyddoedd yn ôl. Roedd gan y stâd drydan, lôndri a llaethdy ei hun ac roedden ni'n cael pob dim o'r stâd, doedd dim rhaid mynd allan i nôl dim.
"Yn 1947 pan gafon ni'r eira mawr doedden ni'n methu mynd allan am chwe wythnos ond roedd popeth yma i ni. Dwi'n cofio'r adeg yn dda - ges i sbario mynd i'r ysgol yn Felinheli am chwe wythnos!
"Rhan o waith fy nhaid oedd ll'nau'r dreifs ar hyd Bryntirion. Doedd fiw i ddeilen syrthio oddi ar y goeden - mi fydde fo yno'n syth i'w bigo fo fyny.
"Roedd fy nhad hefyd yn dreifio Syr Michael i bob man. Mi aeth i Ffrainc efo fo yn 1947 a dwi'n ei gofio fo'n dweud pan ddaeth o adra ei fod wedi gyrru Greta Garbo o gwmpas. Roedd hi ar ei gwyliau yn ne Ffrainc efo Syr Michael. Roedden nhw'n 'nabod pawb - Lord a Lady Carisborough, Princess Marina, Princess Alexandra, Princess Margaret: pawb.
"Princess Marina sy'n aros yn fy nghof i fwyaf. Roedd hi'n dod yma efo St John's Ambulance: Syr Michael oedd big chief St John's yng Nghymru a hi oedd y llywydd, ac roedd hi'n dod yma bob haf jest iawn. Yn 1959 roedd Syr Michael wedi mynd a hi i Ryd Ddu i'w llyn preifat yno, ac mi wnes i ei chyfarfod hi ar y ffordd - ges i fy nghyflwyno iddi gan Syr Michael a'n claim to fame i oedd ysgwyd llaw efo hi ar lôn gefn Rhyd Ddu. Mi fydda i'n cofio hynny am byth ..."