Mae'r chwiorydd Ann Goodman (chwith) a Vera Rankin (ail o'r dde) yn dod o Benrhos yn wreiddiol ac mae'n nhw'n cofio bywyd yn y gegin ac yng ngerddi'r Faenol yn dda.Dechreuodd Ann weithio yno yn 1943 ac roedd yn gweithio ar y stâd i ddechrau fel rhan o fyddin y tir. Wedi hynny, symudodd i'r gerddi lle roedden nhw'n tyfu blodau ac yn eu gwerthu. Roedd 17 o arddwyr yn gweithio yno pan oedd gardd farchnad y stâd yn ei anterth.
Ymysg y bobl fawr mae hi'n cofio cwrdd â nhw roedd David Herbert, Cecil Beaton, y Dywysoges Margaret, y Dywysoges Marina a'r Fam Frenhines. Ymddeolodd yn 1979.
Yn y fyddin dir y dechreuodd Vera hefyd ond roedd hi'n casáu'r gwaith hwnnw. Yn ddiweddarach symudodd i weithio yn y gegin.
Mae hi'n cofio tŷ prysur iawn gyda rhywun pwysig yno bob penwythnos. Mae hi'n cofio'r staff yn casglu i wylio'r bobl fawr yn dod i lawr y grisiau i gael bwyd yn eu dillad crand a byddai dawnsfeydd yn cael eu cynnal tan oriau mân i bore i'r staff hefyd. Adeg y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd byddai'r bonedd yn ymuno â nhw: pan roedd dawns ymlaen, byddai Vera yn mynd i aros i'r hen dŷ gyda Ceinwen, un o forynion y llaethdy, ac mae hi'n pitio'n arw gweld hen adeiladau prydferth yr hen neuadd wedi mynd i'r fath gyflwr.
Gadawodd Vera i weithio mewn ysgol wedi 13 mlynedd - lle roedd yn cael gwell cyflog. Ond roedd dod nôl i'r Faenol yn dod ag atgofion trist yn ôl iddi gan mai yn y gerddi yma y cyfarfu â'i gŵr.
Heddiw, mae hi'n byw yr ochr arall i'r wal, nid nepell o'r Faenol, ac yn edrych ymlaen i fynd i Gymanfa Ganu Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau 2005.
Charles Duff (ail o'r chwith) yw'r olaf o deulu'r Faenol i allu galw'r stâd yn gartref.
Cred Charlie, mab mabwysiedig Syr Michael Duff a'r foneddiges Caroline, y dylai'r Faenol fod yn dŷ llawn bywyd, hwyl ac egni, gan mai dyna'r math o awyrgylch oedd yno pan oedd yn blentyn ac mae'n falch iawn fod Bryn Terfel yn cynnal ei ŵyl flynyddol yma.
Wedi treulio ei blentyndod mewn ysgolion preswyl yn Lloegr, roedd dod adref ar gyfer y gwyliau yn rhywbeth roedd yn edrych ymlaen yn fawr ato ac un o'i hoff lefydd hyd heddiw ydy Llyn y Dywarchen yn Nantlle a oedd yn eiddo i'r teulu ar un adeg.
Gadawodd gartref i fynd i'r coleg ym Mryste pan oedd yn 19, a phrin oedd ei ymweliadau â'r Faenol wedi hynny. Bu farw ei dad yn 1980 pan oedd Charlie yn 30.
Roedd dod nôl i'r aduniad yn hyfryd, meddai, yn enwedig i weld Derek Randall gan i'w rieni, Mr a Mrs George Randall, sydd bellach yn byw ym Mhorthaethwy, fod yn gymaint o ran o'i fagwraeth. Nhw wnaeth ei fagu, mwy neu lai, meddai ac 'achub ei fywyd' fel plentyn. Mae'n cofio George, chauffeur y teulu, fel dyn hael, caredig, annwyl a doniol yr oedd pawb yn ei addoli
Datgelodd hefyd fod Syr Michael Duff eisiau troi stâd y Faenol yn barc bywyd gwyllt, fel sydd yn Longleat heddiw, ond ei fod wedi methu ennyn diddordeb datblygwyr.
Deuai mam Charlie, y Foneddiges Caroline o deulu mawr Plas Newydd ym Môn, lle mae ei brawd yn dal i fyw. Mae Charles Duff yn sôn mwy am y teulu a'i berthynas anodd gyda'i dad ar y rhaglen Faenol - Secrets Behind The Wall.
Roedd Ray Williams (canol) yn gweithio yn llaethdy'r Faenol ac mae hi'n dal i fyw mewn bwthyn ar y stâd.
"Ro'n i'n dairymaid am 25 mlynedd ac yn byw yn yr hen neuadd. Roeddwn i yno ar ben fy hun am 12 mis ac roedd na ysbryd yn y tŷ! Y rheswm oedd am fod hen reolwr y fferm wedi gadael a'i bod yn flwyddyn nes daath y rheolwr newydd, Mr Gladstone, efo'i deulu."Roedden nhw'n ddyddiau braf - fuaswn i ddim wedi aros am 25 mlynedd fel arall. Ro'n i wrth fy modd yno. Mi ges i fy magu ar fferm ym Mhen Llŷn, yn Llangwnadl, ac ro'n i wedi bod eisiau gweithio efo anifeiliaid erioed."Mae hi'n cofio pobl fel y Dywysoges Marina, y Fam Frenhines a'r Tywysog Charles yn ymweld â'r tŷ.
Mae Derek Randall, sydd bellach yn byw ym Mhorthaethwy, yn sôn am ei blentyndod ar y stâd, fel mab gyrrwr y teulu, George Randall yma.