Dathliadau Pont Menai, Porthaethwy Bydd arddangosfa deithiol yn ymweld ag ardal Porthaethwy, yn darlunio bywyd a gwaith Telford, o'i gychwyn tlodaidd ar hyd camau o gynnydd cyson, yn gyntaf fel saer maen, yna fel pensaer, gan orffen ei yrfa fel peiriannydd sifil enwog.
Mae yna lawer o wrthrychau a phapurau yn gysylltiedig â Telford ar Ynys Môn; gobeithir y byddant hefyd yn cael eu harddangos flwyddyn nesaf, ac y bydd Canolfan Arddangos barhaol ar gyfer Telford a threftadaeth Afon Menai yn cael ei sefydlu maes o law.
Mae dathliadau eraill Telford ym Mhorthaethwy hefyd yn cynnwys:
- Cynhadledd ryngwladol rhwng 9 a 11 Gorffennaf 2007, ym Mhrifysgol Cymru Bangor, a fydd yn dod â gwahoddedigion enwog a chynadleddwyr o bob cwr o'r byd ynghyd, gan gynnwys rhai o Sweden, lle cynorthwyodd Telford ag adeiladu Camlas Gotha.
-
Rhaglen Addysg barhaus ar gyfer ysgolion a sefydliadau addysg bellach; presenoldeb yn Ffair Wyddoniaeth Wrecsam.
-
Bydd nifer o deithiau i weld campweithiau peirianneg sifil Telford yng Ngogledd Cymru yn cael eu trefnu.
-
Diwrnod o hwyl ym maes parcio Waun ym Mhorthaethwy ar Orffennaf 14 - teithiau cart a cheffyl, Dawnswyr Môn, stondiau a mwy.
-
Bydd cangen ICE Gogledd Cymru yn coffáu pen-blwydd Telford ar 9 Awst 2007, gyda dathliadau wedi eu canoli ar Bont Grog Menai. Bydd y dathliadau ar agor i bawb.
Dathliadau Conwy Bydd y dathliadau o gwmpas Pont Grog Conwy, yn dechrau ar Awst 9, diwrnod pen-blwydd genedigaeth Telford, pan fydd aelodau o Deyrnged Teithiol Sefydliad y Peirianwyr Siartredig yn cael eu cludo mewn hen fws o'r 1920au at Bont Grog Conwy, lle byddant yn dadorchuddio plac coffa.
Dilynir hyn gan barêd o hen geir drwy'r dref. Ar ddydd Sadwrn Awst 11, bydd y bont ar agor tan 9pm, gyda mynediad am ddim ar ôl 6pm. Mae'r digwyddiad yn cyd-daro â Gŵyl Afon y dref sy'n cynnwys ras cychod hwylio 250 Telford, parêd llusernau a stondinau o gwmpas y cei, ac a fydd yn diweddu gydag arddangosfa tân gwyllt dros y castell gerllaw.
Bydd teithiau tywysedig a sgyrsiau am ddim hefyd ar bob dydd Sul drwy gydol mis Awst ar y bont.
|