"Mae dathliadau i nodi 250 mlynedd ers genedigaeth Telford yn 2007 yn bwysig i Borthaethwy a Gogledd Cymru - mae digwyddiadau o'r fath yn codi proffil gogledd Cymru ar gyfer twristiaeth a busnes.
Adnabyddir Thomas Telford yn fyd-eang fel un o beirianwyr gorau Prydain. Bydd dathliadau cenedlaethol 250 mlynedd ers ei enedigaeth yn cael eu cynnal ym misoedd Gorffennaf ac Awst 2007, ac mae'n bleser gan Ymddiriedolaeth Treftadaeth Gymunedol Porthaethwy gyhoeddi y bydd hi'n rhoi cartref i'r gweithgareddau yng ngogledd Cymru.
Fe wnaeth llawer o greadigaethau nodedig Telford, fel pontydd crog Menai a Chonwy, yr A5 o Lundain i Gaergybi, a phontydd d诺r tyrog Y Waun a Phont Cysyllte sydd yn cario camlas Ellesmere, drawsffurfio bywyd yng Ngogledd Cymru rhyw 200 mlynedd yn 么l, ac maent yn cael eu defnyddio'n gyson heddiw.
Bydd arddangosfa deithiol yn ymweld ag ardal Porthaethwy, yn darlunio bywyd a gwaith Telford, o'i gychwyn tlodaidd ar hyd camau o gynnydd cyson, yn gyntaf fel saer maen, yna fel pensaer, gan orffen ei yrfa fel peiriannydd sifil enwog.
Mae yna lawer o wrthrychau a phapurau yn gysylltiedig 芒 Telford ar Ynys M么n; gobeithiwn y byddant hefyd yn cael eu harddangos flwyddyn nesaf, ac y bydd Canolfan Arddangos barhaol ar gyfer Telford a threftadaeth Afon Menai yn cael ei sefydlu maes o law.
Bydd dathliadau Telford 250 yn 2007 hefyd yn cynnwys:
rhwng 9 a 11 Gorffennaf 2007, ym Mhrifysgol Cymru Bangor, a fydd yn dod 芒 gwahoddedigion enwog a chynadleddwyr o bob cwr o'r byd ynghyd, gan gynnwys rhai o Sweden, lle cynorthwyodd Telford ag adeiladu Camlas Gotha.
Rhaglen Addysg barhaus ar gyfer ysgolion a sefydliadau addysg bellach; presenoldeb yn Ffair Wyddoniaeth Wrecsam.
Bydd nifer o deithiau i weld campweithiau peirianneg sifil Telford yng Ngogledd Cymru yn cael eu trefnu.
Diwrnod o hwyl ym maes parcio Waun ym Mhorthaethwy ar Orffennaf 14 - teithiau cart a cheffyl, Dawnswyr M么n, stondiau a mwy.Bydd cangen ICE Gogledd Cymru yn coff谩u pen-blwydd Telford ar 9 Awst 2007, gyda dathliadau wedi eu canoli ar Bont Grog Menai. Bydd y dathliadau ar agor i bawb.
Mae mwy o wybodaeth am ddigwyddiadau a'r newyddion diweddaraf yn cael eu cyhoeddi ar wefan ." .Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
|