Mae'r adroddiad canlynol yn y North Wales Times yn disgrifio'i ddihangfa olaf, a'r enwocaf: DIHANGFA GYFFROUS O GARCHAR RHUTHUN
"Dihangodd John Jones o Garchar Rhuthun fore dydd Mawrth mewn dull hynod gyffrous, ac ar adeg ysgrifennu'r erthygl hon mae'n dal â'i draed yn rhydd. Llwyddodd i ennill ei ryddid o ganlyniad i ddewrder di-ildio, cryn graffter ac ystwythder hynod... mae rhai'n ystyried bod 'Coch Bach' yn arwr; mae ei berfformiad yn wir yn dangos dewrder. Digwyddodd y ddihangfa rhwng pedwar a phump o'r gloch y bore, cyn i'r rhan fwyaf o'r gwarcheidwaid ddechrau ar eu gwaith... Achosodd dewrder ei ddihangfa, a'r cyflymdra y gadawodd gyffiniau'r carchar gryn benbleth i awdurdodau'r carchar ac i'r heddlu." North Wales Times, 4 Hydref 1913
Roedd 'Coch Bach' wedi bod yn disgwyl cael ei symud i Garchar Stafford i gwblhau dedfryd o dair blynedd am dorri i mewn i adeiladau. Ar y noson benodedig, gadawodd ei gell trwy dwnelu trwy wal y gell, a thrwy ddefnyddio rhaff wedi ei chreu o ddillad gwely'r carchar, dringo dros doeau'r capel a'r gegin, ac yn y diwedd, ddianc dros wal y carchar.
Bu Jones â'i draed yn rhydd am chwe niwrnod cyn cael ei ddal ar Stad Nantclwyd, rai milltiroedd o Ruthun. Cafodd ei saethu yn ei goes gan un o'r rhai oedd yn ei erlid, Reginald Jones-Bateman, mab 19 oed i dirfeddiannwr a oedd yn troi'n fwyfwy amhoblogaidd. Roedd John Jones yn 60 mlwydd oed, a bu farw o sioc a gwaedlif o ganlyniad i'w anaf. Cafodd Jones-Bateman ei gyhuddo o ddynladdiad, ond yn y pen draw cafodd y cyhuddiadau yn ei erbyn eu gollwng.
Er ei holl ddrygau, roedd yn ffigwr poblogaidd, ac achosodd amgylchiadau ei farwolaeth gryn anniddigrwydd yn yr ardal. Cafodd cardiau post yn dangos llun o'i angladd, a'r lleoliad lle cafodd ei saethu, eu masgynhyrchu a'u gwerthu. Efallai nid cymaint fel 'memento mori' ond fel y tystiolaeth olaf un, fel a brofwyd gan y camera, bod y 'Coch Bach' bellach wedi cael ei gaethiwo mewn un lle.
Enillodd diangfeydd niferus 'Coch Bach Y Bala' y llys enw 'Yr Houdini Cymreig' iddo. Consuriwr a dihangwr oedd Houdini a enillodd enwogrwydd am ei orchestion mentrus, yr un cyfnod ag roedd 'Coch Bach' yn gwneud ei ddiangfeydd niferus o'r carchar.
Cipiodd Houdini a'r 'Coch Bach' ddychymyg y cyhoedd. Mae diddordeb y cyfryngau a'r cyhoedd yng nghampau'r lledrithiwr modern David Blaine yn dangos pa mor gyfareddol rydyn ni'n ystyried campau sy'n dangos dewrder, p'run ai yw'r digwyddiadau wedi eu llwyfannu ai peidio.
Mae storïau am y rhai sy'n gwrthwynebu'r system, boed y rheiny'n ddihirod neu'n arwyr, yn cipio dychymyg pobl gyffredin, fyddai efallai'n breuddwydio am ffoi i fyd gwell, gan herio'u cyfyngiadau personol a phroffesiynol eu hunain.
Darparodd 'Coch Bach y Bala' i'r cyhoedd yn lleol ac yn genedlaethol symbol gwrthryfelgar o obaith, a nifer o straeon gafaelgar i'w mwynhau yn y bar neu ar yr aelwyd. Roedd y rhai a brynodd gerdyn post o'i angladd yn meddu ar yr allwedd i realiti bywyd y Coch Bach, - mewn angau, does dim dianc. Roedd hyn yn rhywbeth roedd yr awdurdodau yn Ninbych, mae'n debyg, yn awyddus i'w hybu fel rhybudd i unrhyw un a ystyriai ddilyn yn ôl ei droed.
Gyda diolch i Garchar Rhuthun a Chyngor Sir Ddinbych.
Nôl i'r dudalen gyntaf