Gwnaeth ei anturiaethau ef yn enwog ar draws Gogledd Cymru pan ddihangodd, nid unwaith ond deirgwaith, o Garchardai Caernarfon a Rhuthun. Fe'i galwyd hefyd yn 'Y Braw Bach Cymreig' a'r 'Turpin Bychan' ac fe ddatblygodd enw iddo'i hun fel potsiwr a lleidr penderfynol, yn treulio dros 60 mlynedd yn y rhan fwyaf o garchardai Gogledd Cymru, a nifer yn Lloegr.
O'r galwedigaethau amrywiol y bu John Jones yn eu dilyn - briciwr, saer coed, labrwr, morwr a thaniwr - roedd yn fwyaf enwog am ei botsio a'i ddwyn parhaus, a olygodd ei fod mewn trafferth rheolaidd gyda'r Gyfraith. Ers pan oedd yn ifanc, arferai ddwyn amrywiaeth o bethau, nifer ohonyn nhw o ddim gwerth o gwbwl iddo, ac arferai eu cadw mewn waliau neu gloddiau, a dychwelyd i'w casglu yn nes ymlaen.
Arferai Jones frolio am ei anturiaethau, yn aml yn mynnu ei fod wedi dwyn pethau nad oedd wedi eu dwyn mewn gwirionedd. Parhaodd y tueddiad i dynnu sylw ato'i hun nes iddo dyfu'n ddyn, a'r adeg honno achoswyd ei ddinistr gan y tueddiad i siarad yn gyhoeddus am ei anturiaethau diweddaraf.
Dihangodd Jones o'r carchar am y tro cyntaf ym Mis Tachwedd 1879, pan oedd yn disgwyl i sefyll ei brawf yng Ngharchar Rhuthun am ddwyn 15 oriawr yn y Bala a Llanfor. Un noson fe agorodd ddrws ei gell ei hun, yn ogystal â drysau tair cell arall, cerddodd allan drwy prif ddrws y Carchar tra roedd y staff yn cael eu swper ac aeth allan i'r nos. Cynigiwyd gwobr o £5 am ei ail-gipio, ac, o'r diwedd, fe'i daliwyd dri mis yn ddiweddarach yn y gwely yn y Swan Inn, Mochdre ger Bae Colwyn. Tybed a oedd hyn o ganlyniad i wybodaeth gafwyd gan gwsmer a ddigwyddodd glywed straeon Jones yn y Swan Inn y noson honno?
Carchar Sirol Rhuthun - Rheolau ar gyfer y Carcharorion
"Bydd pob carcharor fydd yn euog o unrhyw un o'r troseddau canlynol yn wynebu cosb: Ceisio dianc, neu helpu eraill i wneud hynny, neu wybod am unrhyw ymdrech arfaethedig i ddianc ac heb gyflwyno adroddiad am hynny'n syth." Rheolau ar gyfer Carcharorion yng Ngharchar Rhuthun, circa 1850
Ceisiodd Coch Bach Y Bala ddianc o garchar am yr ail waith ym 1900 tra'n disgwyl cael ei drosglwyddo i garchar Dartmoor o Garchar Caernarfon. Roedd Jones wedi ei gyhuddo o ddwyn £10 o'r Waterman's Arms, Amlwch, ym Mrawdlys Biwmares, ac roedd wedi mynnu iddo gael ei 'fframio' gan yr heddlu. Yn wynebu dedfryd hir arall, cododd Jones faricêd tu ôl i ddrws ei gell gyda rhannau o'r wŷdd gwehyddu oedd yn ei gell, a dechreuodd dwnelu drwy'r llawr. Methodd ei ymgais, felly dechreuodd ar ddedfryd hir arall yn y carchar.
Treuliodd John Jones dros hanner ei fywyd yn y carchar, gyda 10 gwahanol gyhuddiad am ddwyn, torri i mewn i adeiladau, ac, ar un achlysur, am godi terfysg yn erbyn yr Heddlu yn y Bala. Roedd yn hynod o 'wrth-heddlu', ond roedd ei ymddygiad yn y carchar yn gyffredinol dda (ag eithrio'r diangfeydd) yn aml yn cael ei ryddhau'n gynnar ar drwydded.
O ddeallusrwydd uwch na'r cyffredin, cyflwynodd Jones ei amddiffyniad ei hun ar sawl achlysur. Ym 1906, cafodd ei gyhuddo o ladrad ac ymosod yn ffyrnig ar ddynes 71 mlwydd oed. Yn yr achos dedfrydu, bu'n rhaid i'r llys Ynadon eistedd tan 3 am oherwydd hyd araith y diffynnydd i'r llys. Yn anffodus i Jones, ni lwyddodd yr araith hir ei achub rhag cael ei garcharu am 7 mlynedd yng ngharchar Dartmoor, o'r lle y cafodd ei ryddhau ym Mis Ionawr 1913.
Ymlaen ...