Dramodydd, cynhyrchydd a'r ysbrydoliaeth tu ôl i Gymdeithas Drama Llangefni.
Andrew Fisher, mab FG Fisher, sy'n sôn am gyfraniad ei dad i fyd y ddrama a Theatr Fach Llangefni:"Yn ogystal â sefydlu cymdeithas ddrama yn Llangefni yn 1949, F G Fisher oedd sylfaenydd a chyfarwyddwr Theatr Fach Llangefni.
"Brodor o Fargoed, Morgannwg, oedd Francis George Fisher - roedd yn well ganddo ei enw canol, George - a chafodd ei addysgu yn Ysgol Lewis, Pengam, a Phrifysgol Cymru, Caerdydd, lle graddiodd mewn mathemateg a chapteinio tîm nofio'r brifysgol.
"Am gyfnod byr, roedd yn athro mewn coleg cenhadol yng ngorllewin Affrica. Yn 1932, cafodd swydd fel athro mathemateg yn Ysgol Ramadeg Llangefni a bu'n ddirprwy brifathro yno hyd at ei farwolaeth ddisymwth.
"Dechreuodd ysgrifennu yn Saesneg, gan gyhoeddi ei nofel gyntaf, One Has Been Honest, pan oedd yn 21, cyn iddo radio yn 1930. Ysgrifennodd hefyd nifer o gerddi a straeon a gyhoeddwyd yn The Adelphi a The Twentieth Century yn y 1930au, cyn troi at fyd y ddrama. Perfformiwyd ei ddrama, The Disinherited, yn Theatr Fach Abertawe ym mis Gorffennaf 1939.
"Tra roedd yng Ngwlad yr Iâ fel is-gapten yn y llynges yn ystod yr Ail Ryfel Byd, dysgodd Gymraeg o lyfryn Caradar, Welsh Made Easy. O'r cyfnod hwnnw ymlaen, roedd yn benderfynol o ysgrifennu dramâu yn y Gymraeg a meistroli'r gynghanedd. Ysgrifennodd o leiaf bum drama fer rhwng 1945 a 1952 a thair drama hir: Catrin (a enillodd y wobr gyntaf yn Eisteddfod Dolgellau, 1949), Y Ferch a'r Dewin (cydradd gyntaf yn Eisteddfod Rhyl, 1953) a Merch yw Medusa (1951). Hefyd, cyfieithodd ddrama Andre Obey, Noa, yn 1951. Cynhyrchodd 30 o ddramâu, ugain ohonyn nhw yn y Gymraeg, gan gynnwys ei holl weithiau ei hun a chyflwyniadau cofiadwy o weithiau mawr Saunders Lewis. Daeth yn aelod o Bwyllgor Drama Cyngor y Celfyddydau a chafodd MBE am ei wasanaeth i'r theatr yng Nghymru yn 1958.
"Ei gyfraniad pwysicaf yn ddiamau oedd sicrhau bod gan Gymdeithas Drama Llangefni gartref parhaol gydag agor y Theatr Fach ym Mhencraig, Llangefni, yn 1953.
'The rapid advance of Theatr Fach Llangefni to a leading role came through purposefully aiming at a higher level than just satisfying a creative urge latent in most communities' Western Mail 20/9/1960.
"Cafodd ei wneud yn gyfarwyddwr y theatr a gwireddu ei freuddwyd o sefydlu theatr amatur a gyflwynai ddramâu cwbl broffesiynol yn rheolaidd yn y Gymraeg a'r Saesneg. Dathlodd Theatr Fach ei 50fed pen-blwydd ym mis Mai 2005 ac mae'n gofadail addas iddo.
"Mae cyfraniad F G Fisher i'r theatr yng Nghymru wedi ei ddisgrifio fel un hanfodol. Mae'r rhan fwyaf o'i weithiau a'i bapurau yn cael eu cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, yn adran archifau Prifysgol Bangor ac yn archifdy Llangefni. Ond fe hoffen ni gael hyd i unrhyw bapurau neu weithiau eraill i'w casglu a'u cadw er mwyn iddynt fod ar gael i ymchwilwyr. Fedrwch chi helpu?"
Llyfryddiaeth:
"Francis George Fisher - Bardd a Dramodwr". Llewelyn Jones Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 1983
"Llwyfannau Lleol" Yr Athro. Hazel Walford Davies, Gwasg Gomer 2000
Adolygiad Gwilym Owen o Hanes y Ddrama Gymraeg ym Môn 1930 - 1975