| |
|
|
|
|
|
|
|
Hanes y Ddrama Gymraeg ym M么n Seigiau blasus mewn cowdel clytiog
Adolygiad Gwilym Owen o Hanes y Ddrama Gymraeg ym M么n 1930 - 1975 gan O Arthur Williams. Cyhoeddwyd gan yr awdur. 拢15.
Taswn i'n chwilio am air i ddisgrifio cyfrol O Arthur Williams ar hanes y ddrama Gymraeg ym M么n rhwng 1930 a 1975 mae'n debyg mai'r gair 'cowlad' fyddai'r un cyntaf i ddod i'r meddwl.
Bron i 350 o dudalennau sydd yn ffrwyth blynyddoedd o ymchwil trylwyr i faes toreithiog thespianaeth Mam Cymru.
Mae'n rhaid derbyn mai traethawd ymchwil ar gyfer gradd Doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor ydi'r cyhoeddiad hwn ac o anghenraid felly mae'r arddull braidd yn ffeithiol sychlyd a hynny, weithiau, yn gwneud y darllen ychydig yn anniddorol.
Nid awgrym yw hynny fod y defnydd heb ei ap锚l. Yn wir, y gwrthwyneb sy'n wir gan fod yma doreth o ffeithiau newydd am y cyfnod o bum mlynedd a deugain a drafodir gan yr awdur.
Cymaint o ffeithiau a dweud y gwir nes mai prin gorgyffwrdd 芒 rhai ohonynt a wneir; ac mae hynny'n drueni.
Seigiau blasus Ond wedi dweud hynny y mae yma hefyd ddigonedd o seigiau blasus yn enwedig i rywun fel fi a anwyd ac a fagwyd ym mhentref Llannerchymedd.
Does dim dadl mai 'Athen M么n' oedd un o'r canolfannau pwysicaf yn hanes datblygiad y ddrama yn Sir F么n yn ystod y cyfnod ac mae'r awdur wedi rhoi sylw manwl i'r cyfraniad hwnnw gyda chymorth manylion cwbl newydd am y gwyrthiau a wnaed gan John Huws - John Stamp - a'i gwmni; yn lleol ac yn genedlaethol.
Mewn manylder Ac mae O Arthur Williams yn dilyn hynt a helynt Y Theatr fach yn Llangefni mewn manylder mawr a chwbl ryfeddol yw'r wybodaeth sydd ganddo am gyfraniad George Fisher i sefydlu a datblygu'r ganolfan theatrig arbennig yma.
Mae'r gyfrol hon yn sicrhau fod y g诺r a ddaeth o gymoedd y de a gosod ei wreiddiau yn Llangefni yn cael y clod dyladwy am y tro cyntaf erioed.
Mae gan gynifer ohonom ddyled fawr i George am roi inni ein cyfle cyntaf dan ei arweiniad disgybledig yn Ysgol Ramadeg Llangefni.
Ac nid at ei ddawn fel athro mathemateg yr ydw i'n cyfeirio nawr!
Nid hap a damwain Ac mae'r gyfrol yn gwneud mwy na hynny. Mae'n profi nad trwy hap a damwain y datblygodd y ddrama Gymraeg ar yr ynys.
Bu'r sir yn ffodus o gael criw o bobl gyda gweledigaeth wrth y llyw. E Morgan Humphreys yn Gyfarwyddwr Addysg hirben ac fe benodwyd g诺r arbennig iawn yn J O Jones yn Ysgrifennydd Cyngor Gwlad yr ynys.
Dyna yn sicr berson a roddodd ei stamp bersonol ar bopeth yr oedd yn ymh茅l ag o ac ef yn anad neb, fel mae'r gyfrol hon yn profi, a sicrhaodd fod y theatr amatur yn cael pob chwarae teg a chwmn茂au yn codi fel madarch ar hyd a lled yr ynys.
Ac mae pawb o'm cenhedlaeth i - hynny ohonom sydd ar 么l - yn cofio'r gwyliau drama blynyddol y byddai cymaint o edrych ymlaen atynt.
Mae'r gyfrol yn cyfeirio at ambell i ddirgelwch hefyd a hynod o ddiddorol i mi oedd dilyn hanes penodiad a diflaniad y diweddar Dewi Llwyd Jones yn drefnydd drama'r sir.
Mae O Arthur Williams, chware teg iddo, yn codi cwr y llen ar y cyfnod diddorol pan yw hi'n ymddangos fod cerddoriaeth a drama wedi dod wyneb yn wyneb 芒'i gilydd yng nghoridorau grym y Cyngor Sir!
Beth bynnag yw'r gwirionedd mae'n anodd dychmygu'r un math o drafodaeth ymhlith y cynghorwyr presennol!
Gwaith caled Ac mi allwn i fynd ymlaen ac ymlaen i drafod y pigion blasus sydd yn y gyfrol nodedig hon ac sy'n dystiolaeth i gymaint o waith caled gan yr awdur.
Ond diawcs mi fyddai'r darllen wedi bod yn felysach petai'r golygu a'r cyflwyno wedi bod yn fwy apelgar a threfnus. Ac mae hynny'n anffodus.
Wedi mynd ati i gribinio a chwilio a chwalu gyda'r fath frwdfrydedd. Wedi canfod cymaint o ffeithiau newydd a diddorol. Wedi casglu cynifer o luniau o'r safon uchaf, mae'r cyfan yn colli dipyn o'i sglein oherwydd un diffyg bach - disgyblaeth olygyddol.
A dweud y gwir bu bron i'r gyfrol droi'n 'gowdel clytiog' yn hytrach na'r 'cowlad cyfoethog' y gallai fod gydag ychydig mwy o olygu.
Mae'r llyfr ar gael yn:
Cwpwrdd Cornel, Llangefni
Awen Menai, Porthaethwy
Siop Pendref, Bangor
Gwasg y Bwthyn, Caernarfon
a 12 L么n-y-wylan, Llanfairpwll, Ynys M么n
Cysylltiadau Perthnasol
George Fisher
Theatr Fach Llangefni
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|