|
| |
Aimee Duffy
Rock, Roll & Soul Ebrill 2004
Falle bo' chi'n gyfarwydd ag Aimee Duffy fel y ferch daeth yn ail yn y gystadleuaeth dalent Waw Ffactor ar S4C. Ond er mai ail yn y ras ddoth hi, ma hi 'di dilyn esiampl yr enillydd Lisa Pedrick a rhyddhau ei sengl Gymraeg gynta' - Rock, Roll & Soul ar label Awen. Ma Aimee 'di bod yn gweithio gyda'r cyfansoddwyr o Southampton Winter of Clowns a dyma ffrwyth eu llafur. Ma'r sengl yn cynnwys tair cân newydd, 'Dim Dealltwriaeth', sy'n cael ei disgrifio fel cân nu-metal, (ond peidiwch gadel i hwnna roi chi off, achos mae'n reit dda), 'Hedfan Angel' a 'Cariad Dwi'n Unig'. Daeth Brychan England o ac Alun Owens, y Parchedig Pop, cyn-gyflwynydd ar Radio Cymru, a chyn-aelod o'r grwp Y Profiad i stiwdios C2 i adolygu'r CD. Ond oedden nhw'n hoffi cyfeiriad cerddorol newydd Aimee Duffy, neu'n meddwl bod e braidd yn "duff" (sori!)? Gwrandewch ar adolygiad o Aimee Duffy
|
|
|