Am dros 50 mlynedd bu'n ysgrifennu dramâu a storïau byrion am gymeriadau bro ei febyd - Eifionydd.
Wil Sam oedd yr awdur cyntaf yn y Gymraeg i wneud bywoliaeth o ysgrifennu, er na chafodd fawr ddim o addysg ffurfiol
Dei Tomos yn holi Dr Emyr Humphreys am fywyd Wil Sam
Bu'n cadw garej yn Llanystumdwy cyn ei werthu ym 1960 er mwy canolbwyntio ar ysgrifennu.
Ysgrifennodd ddramau ar gyfer y llwyfan yn ogystal â'r radio a theledu.
Wil Sam oedd yn gyfrifol am sgriptiau Ifas y Tryc oedd yn cael eu perfformio gan ei gyfaill, yr actor Stewart Jones.
Bu'r dramodydd Meic Povey yn talu teyrnged i Wil Sam ar Radio Cymru.
"Roedd yn ddyn ei filltir sgwâr ac yn ysgrifennu am bobl ei filltir sgwâr," meddai.
Meic Povey yn cofio Wil Sam ar Radio Cymru
"Roedd yn ffan nid yn unig o'i filltir sgwâr ond yn mynd yn rheolaidd i Ŵyl Ddrama Dulyn a mynd i Lundain i weld sioeau.
"Roedd yn 'sgwennu am ei filltir sgwâr ond hefo dylanwad llawer ehangach na hynny 'dwi'n teimlo.
"'Dwi'n credu y bydd yn cael ei gofio fel un o'n dramodwyr mwya' erioed.
"Mae ei gyfraniad i'r theatr yn aruthrol.
"Roedd Ifas y Tryc yn glamp o gymeriad ac athroniaeth Wil oedd llawer iawn ohono.
"Mae ei dau lyfr - Ifas y Tryc a Ifas Eto Fyth - yr unig ddau lyfr am wn i yn Gymraeg pan ydych yn ei ddarllen 'da chi'n chwerthin yn uchel a peryg i chi ddisgyn oddi ar y soffa!
"Fedrwch chi ddim dweud hynny am brin neb yn y Gymraeg."
Daeth y newyddiadurwr Ioan Roberts i adnabod Wil Sam yn dda dros y blynyddoedd.
"Mi oedd o'n dweud rhywle nad oedd o'n medru creu dim byd a bod gwell ganddo alw ei hun yn 'sgwennwr yn hytrach na llenor," meddai.
"Sylwi'n graff oedd o, ac yn nabod ei fro ei hun.
"Roedd o'n ymfalchio mewn cael ei alw'n blwyfol. Roedd ei blwyfoldeb yr un peth a'i wladgarwch.
"Ond roedd o'n sylwi mor graff ar y natur ddynol fel bod apêl eang iawn yn ei gymeridau a'i 'sgwennu yn gyffredinol.
"Roedd ganddo argyhoeddiadau cryf ynglyn â heddwch byd, dyfodol ei fro, yr iaith a'r genedl.
"Yr oedd yn berson crwn iawn ac roedd hynny o bosib yn ychwanegu at ei apêl."
Meddai'r Prifardd Twm Morys:
"Mecanic oedd o i gychwyn, ond mecanic oedd hefo dawn i 'sgwennu am y bobl roedd yn ei gyfarfod bob dydd.
"Roedd yn medru 'sgwennu yn nafodiaith Eifionydd fel nad oedd hi'n mynd yn gwbl anealladwy.
"Roedd o'n medru rhoi hi ar bapur yr oedd pawb yn ei ddallt."
Gyrrwch eich teyrngedau a rhannwch eich atgofion o Wil Sam
Teyrngedau Y Ffynnon