Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Eisteddfod Llangollen
Dawnswyr o India 60 mlwyddiant
Roedd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn dathlu ei phen-blwydd yn 60 oed pan gynhaliwyd yr ŵyl yn ystod wythnos Gorffennaf 4-9 2006.
  • Orielau lluniau 2006
  • Yn un o wyliau cerdd a dawns mwyaf y byd, cynhaliwyd yr Eisteddfod am y tro cyntaf ym 1947.

    Y flwyddyn honno bu 40 grŵp o 14 gwlad yn cystadlu ond erbyn hyn mae cystadleuwyr o 50 o wahanol wledydd yn cymryd rhan dros bum diwrnod.

    Amcangyfrif bod 500,000 o bobl wedi cystadlu yn Llangollen yn ystod y 60 mlynedd ddiwethaf, gan gynnwys y tenor byd-enwog Pavarotti, gyda thair miliwn o bobl wedi dod i wylio'r cystadlu a'r cyngherddau.

    Katherine Jenkins Dychwelodd Bryn Terfel i'r Eisteddfod am y tro cyntaf ers 10 mlynedd mewn cyngerdd mawreddog ar nos Fawrth, Gorffennaf 5, 2006 tra daeth y mezzo-soprano o Gastell-nedd, Katherine Jenkins, i berfformio ar lwyfan Llangollen am y tro cyntaf mewn Cyngerdd Gala i gloi'r Eisteddfod ar y nos Sul.

    Hefyd yn rhan o'r dathliadau 60 mlynedd roedd Cyngerdd Ffenestr y Byd - un o ddigwyddiadau mawr yr wythnos lle mae perfformwyr o bedwar ban i'w gweld ar y llwyfan a chyngerdd i ddathlu traddodiad cerddorol Cymru gyda phedwar o gorau meibion amlycaf Cymru: Froncysyllte, Godre'r Aran, Pontarddulais a Chôr Meibion y Rhos.

    Tlws Pavarotti oedd y wobr nos Sadwrn, gydag enillwyr y cystadlaethau i gorau yn cystadlu am anrhydedd Côr y Byd.

  • Darllenwch sgwrs gyda phrif weithredwr yr Eisteddfod Gwyn L Williams ar drothwy'r ŵyl yn 2006


  • Digwyddiadau
    Adolygiadau
    Trefi


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý