Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Eisteddfod Llangollen
Gwyn L Williams Dangos Cymru i'r byd
Mae Eisteddfod Llangollen yn dathlu diwylliant y byd, ond ar ben-blwydd yr ŵyl yn 60 oed yn 2006 roedden nhw'n ceisio dangos ychydig o ddiwylliant Cymru i'r byd hefyd meddai'r prif weithredwr Gwyn L Williams.
Fe gawson ni sgwrs efo fo ar ddiwrnod agoriad yr ŵyl yn 2006:

"Fel arfer mae Llangollen yn rhywle ble mae'r byd yn dod i Gymru, a dyna yw swyddogaeth yr Eisteddfod. Mae'r Genedlaethol a'r Urdd yn dathlu diwylliant Cymraeg ac rydym ni yn dathlu diwylliant y byd. Eleni, rydym yn ceisio dangos i'r byd ychydig o ddiwylliant Cymru - mae gennym bileri mawr o ddiwylliant Cymraeg i ddangos i'r byd sydd yn dod yma.

Cyngherddau Gala
"Rydym yn cynnal cyngerdd gala gyda Bryn Terfel a Llŷr Williams, ceir cyngerdd ar y nos Wener gyda phedwar Côr Meibion sydd wedi cynrychioli Cymru yng Nghôr y Byd yn yr Eisteddfod ac wrth gwrs ar y nos Sul mae Katherine Jenkins yma.

"Mae pobl yn dod yma o bob rhan o'r byd ac yn cael eu derbyn gyda gwên, dim ots beth yw eu cred, eu hiaith, eu gwleidyddiaeth neu liw eu croen. Dim ots beth yw economi eu gwlad - maent i gyd yn cael eu trin yr un peth. Mae hynny yn bwysig iawn.

"Yr hyn yr ydym yn ei weld yw pobl yn mynegi eu hunain drwy gerdd a dawns, sydd yn ieithoedd rhyngwladol, heb yr angen i siarad iaith.

Gwên yn dweud y cyfan
"Oherwydd y ddawns a'r canu mae pobl yn gwenu a dim ots os nad ydych yn deall eu hiaith, rydych yn deall y mynegiant tu ôl i'r wên.

Perfformwyr dydd Mawrth"Mae dydd Mawrth cyntaf yr Eisteddfod wedi dod yn draddodiadol yn ddiwrnod i'r plant lle rydym yn cynnal perfformiadau iddynt ar y brif lwyfan a llwyfannau o gwmpas y maes. Mae gwahanol weithgareddau, gweithdai a pherfformiadau, yn cael eu cynnal ar gyfer y plant ifanc. Diwrnod Allan o Affrica drefnwyd eleni, gan ganolbwyntio ar gerddoriaeth a dawns o Affrica.

"Bu 36 o berfformwyr proffesiynol o Affrica yma, gan roi cyfle i'r plant cael gweld a chyffwrdd y math o ddiwylliant sydd yn dod o Affrica yn hytrach na darllen amdano neu ei weld ar y teledu."



Digwyddiadau
Adolygiadau
Trefi


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý