Serch hynny, roedd 1,595 o blant plwyf lleol Rhiwabon yn mynychu ysgol Sul oedd yn gysylltiedig â chapel neu eglwys yn yr ardal.
Gwelodd yr Anghydffurfwyr yr adroddiad fel her ac aethpwyd ati i godi mwy o gapeli ac i fod yn fwy gweithgar yn y gymuned. Erbyn 1900 roedd mwy nag ugain o gapeli ac eglwysi yn perthyn i o leiaf bump o wahanol enwadau yng nghyffiniau Rhosllannerchrugog.
Roedd cefnogaeth gref i'r Mudiad Dirwestol yn y capeli. Roedd y mudiad yn condemnio alcohol ac yn defnyddio digwyddiadau cymdeithasol i argyhoeddi pobl y dylent gymryd 'y llw'.
Fe agorwyd ystafelloedd coco yn Wrecsam ac Owrtyn er mwyn cynnig mannau cyfarfod amgenach na'r tafarnau i bobl.
Yn aml, byddai athrawon y cylch yn cwyno am fod plant yn cael eu temtio i golli'r ysgol er mwyn iddynt fedru mynychu'r gorymdeithiau a'r partïon te oedd yn cael eu trefnu gan y Gobeithlu a'r Rechabitiaid.
Fodd bynnag, er bod y mudiadau dirwestol yn weithgar, roedd terfynau ar eu heffeithiolrwydd. Cwrw oedd yn torri syched gweithwyr y fro, sef y gweithwyr dur oedd yn dioddef gwres llethol y ffwrneisi a'r glowyr ar eu ffordd adref o'r pyllau.
Roedd gan Wrecsam fwy na 70 o dafarnau, amryw o siopau gwirodydd a nifer fawr o fragdai a gweithwyr bragdy oedd yn awyddus i ddiogelu eu bywoliaeth.
Cynnydd
|