Yn 1842, anfonodd grŵp o fuddsoddwyr o'r Alban ŵr o'r enw Henry Robertson i Sir Ddinbych i chwilio am gyfleoedd i gychwyn busnesau.
Sylweddolodd yn fuan sut y gallai'r rheilffyrdd drawsnewid yr economi leol.
Yn ei farn ef, y flaenoriaeth oedd cysylltu'r pyllau glo, y gweithfeydd briciau, teiliau a theracota a'r ffowndrïau haearn gyda'u marchnadoedd, sef y dinasoedd llewyrchus yn Lloegr.
Robertson oedd y syrfëwr a'r peiriannydd i'r rheilffordd a adeiladwyd i gysylltu Wrecsam a Rhiwabon gyda Chaer yn 1846.
Yn 1848, gwnaeth ei draphontydd yn y Cefn a'r Waun hi'n bosibl i'r trenau nwyddau cyntaf deithio i'r Amwythig.
Daeth y rheilffyrdd â newid i Wrecsam hefyd. Roedden nhw'n cynnig gwaith ac yn galluogi'r boblogaeth leol i deithio i lan y môr neu i'w mannau gwaith.
Dibynnai melin anferthol Cobden ar y rheilffordd i gludo'r grawn iddi ac i ddanfon y blawd yr oedd yn ei gynhyrchu.
Prynodd datblygwyr y tir ar Bradley Road i godi tai ar gyfer gweithwyr y felin. Cafodd y strydoedd newydd eu henwi ar ôl arweinyddion y Gynghrair a wrthwynebai'r Deddfau Ŷd.
Collodd y ffeiriau blynyddol a'r masnachwyr teithiol a fynychai'r sgwariau ger Henblas Street eu gafael.
Yn eu lle, agorodd siopau newydd a werthai nwyddau y gallai'r trenau eu danfon trwy gydol y flwyddyn.
Diwydiant
|