Cafodd Dr Thomas Griffith gefnogaeth y boneddigion lleol er mwyn iddo fedru agor fferyllfa gyntaf Wrecsam yn 1833.
Pan sylweddolwyd beth oedd maint y galw am ofal meddygol, codwyd arian i adeikadu clafdy iawn yn 1838.
Costiodd yr ysbyty fwy na £1,800 i'w adeiladu, ond codwyd £1,050 tuag at yr achos mewn basâr, a drefnwyd yn Neuadd y Dref yn ystod cyfnod Rasys Wrecsam.
Roedd rheolaeth y clafdy yn adlewyrchu gwerthoedd y cyfnod. Dim ond pobl a allai fforddio i dalu oedd yn derbyn triniaeth yno. Gallai noddwyr oedd yn cyfrannu'n rheolaidd enwebu pobl dlawd i dderbyn triniaeth feddygol.
Ymhen amser, daeth y clafdy i gynnig gwasanaethau newydd megis triniaeth opthalmig [llygaid] a thriniaeth ddeintyddol. Ychwanegwyd theatr llawdriniaeth. Yn 1898 roedd 355 o gleifion yn cael eu trin yn yr ysbyty, a'r meddygon yn trin 2,285 o all-gleifion.
Gan nad oedd unrhyw gyfraniad ariannol gan y llywodraeth, roedd yr holl arian yn cael ei godi'n lleol.
Roedd digwyddiadau blynyddol fel Carnifal Clwb Seiclo Wrecsam, Sadwrn yr Ysbyty a Dawns Flynyddol Clafdy Wrecsam, ynghyd â chasgliadau mewn eglwysi a thanysgrifiadau gweithwyr, yn helpu i godi'r arian angenrheidiol.
Ffydd a Moesoldeb
|