Bu Deddf Mwyngloddiau 1842 yn gyfrwng i wahardd gwragedd, genethod a bechgyn dan 10 oed, rhag gweithio dan ddaear yn y mwyngloddiau.
Ar ôl ymgyrch hir, cyfyngodd Deddf Ffatrïoedd 1874 hyd y diwrnod gwaith i ddeg awr.
Gwrthododd rhai gwÅ·r busnes y newidiadau hyn gan ddweud eu bod nhw'n cynrychioli ymyrraeth ar ran y llywodraeth.
Ymdrechodd eraill o blaid y ddeddf, gan geisio rhoi terfyn ar y niwed oedd yn cael ei wneud i wragedd a phlant.
Mae llyfrau log ysgolion lleol yn dangos bod y deddfau newydd yn cael eu diystyru.
Roedd y Wrecsam Fictoraidd yn awyddus i hyrwyddo masnach.
Ar 22 Gorffennaf 1876, daeth Dug a Duges Westminster i'r dref i agor 'Arddangosfa Trysorau Celf a Diwydiant Gogledd Cymru', sef arddangosfa dros gyfnod o bedwar mis, ar lun yr arddangosfeydd mawr a gynhaliwyd yn Llundain a Glasgow, i ddathlu celfyddyd a dyfeisgarwch.
Mae'r fynedfa i'r neuadd arddangos, sef Adeiladau Westminster, yn sefyll hyd heddiw yn Stryt yr Hôb yn Wrecsam.
Roedd pum-deg-un o stondinau busnes, ynghyd â mwy na 900 o weithiau celf a 2,300 o arddangosion eraill, gan gynnwys gwaith metel, crochenwaith, porslen, hynafiaethau, cerflunwaith a thecstilau, yn cael eu harddangos.
Ymgorfforiad arall o'r deisyfiadau masnachol a ddaeth i'r amlwg yn 1888 oedd agoriad swyddogol Ysgol Gwyddoniaeth a Chelfyddyd Wrecsam.
Roedd y ganolfan hon yn cynnig hyfforddiant galwedigaethol, gyda chyrsiau mewn adeiladu ac adeiladwaith, peirianneg fecanyddol, lluniadu technegol, cemeg a mathemateg.
Ymweliad Brenhinol