Uchelwr o Gymro a wrthryfelodd yn erbyn y Saeson a sefydlu senedd Gymreig ym Machynlleth
Teulu'r milwr hwn fu'n gwasanaethu ym myddin Lloegr oedd y cyntaf i ildio tir i fyddin Edward I.Ond fe gryfhawyd ymwybyddiaeth Gymreig Glyndŵr pan ddechreuodd ffraeo gyda'i gymydog o Sais a'i fab-yng-nghyfraith yr Arglwydd Grey.
Enillodd Grey achos llys yn erbyn Glyndŵr ar sail casineb Harri IV tuag at y Cymry. Ond fe heriodd Glyndŵr yr holl drefn wleidyddol oedd wedi ei sefydlu gan frenhinoedd Lloegr yn ddiweddarach pan gyhoeddodd ei hun yn Dywysog Cymru ar ei stad yng Nglyn Dyfrdwy ar 16 Medi 1400.
Ar ddydd ei goroni, fe ymosododd Glyndŵr a 250 o ddilynwyr ar Ruthun gan 'sgubo i mewn pan agorwyd giatiau'r dref ar doriad y wawr.
Dyma'r cyntaf o ymosodiadau ar Fflint, Rhuddlan, Holt, Croesowallt a'r Trallwng. Cyhoeddwyd Glyndŵr yn herwr ond fe frwydrodd nifer o'i gefnogwyr i ennill pardwn.
Wrth i'r gefnogaeth iddo dyfu, ymunodd myfyrwyr mewn protestiadau a daeth y Cymry alltud yn ôl i ymuno yn y gwrthryfel.
Aeth Glyndŵr ati i greu cytundebau efo'r Alban a Ffrainc, i ennill cestyll a chynnal senedd ym Machynlleth.
Yn Harlech cynhaliodd lys a chynllunio'i ddyfodol dros Gymru. Erbyn iddo ennill y rhan fwyaf o Gymru, roedd pawb ei ofn.
Fe frwydrodd Glyndŵr i'r diwedd yn ei gastell olaf, Harlech. Ni chofnodwyd y manylion am y frwydr olaf ond fe lwyddodd Glyndŵr i ddianc. Carcharwyd ei wraig, ei ddwy ferch ac ŵyr iddo yn Nhwr Llundain ac yno y buont farw.
Fe dreuliodd Glyndŵr ei hun weddill ei ddyddiau yn Kenturch yng nghartref ei fab yng nghyfraith Sir John Skydmore tan ei farwolaeth.
Yn 1415, fe wrthododd bardwn ac ni chlywir sôn amdano wedi'r flwyddyn hon. Erys ei farwolaeth yn ddirgelwch ac ni wyddys lle cafodd ei gladdu. Mae'r ffaith fod lleoliad ei fedd yn dal yn ddirgelwch hyd heddiw yn ychwanegu at y rhamantu yng Nghymru ynglŷn ag Owain Glyndŵr.
Dywedir iddo losgi Croesowallt a Handbridge, Caer mor aml nes iddynt gael eu hadnabod fel Burnttowns!
Mwy am Owain Glyndŵr ar wefan Lleol Canolbarth.
Lluniau o'r cerflun newydd o Owain Glyndŵr yng Nghorwen.