Cyhoeddodd ei hun yn Dywysog Cymru a gwrthryfelodd yn erbyn y Saeson gan sefydlu senedd Gymreig ym Machynlleth
Ganwyd yr uchelwr Owain Glyndŵr tua 1350 ac ymddengys iddo gael magwraeth ddigon arferol. Yn ddiweddarach, astudiodd y gyfraith yn Llundain a gwasanaethodd fel milwr ym myddin y Saeson.Roedd ganddo blasdy enwog yn Sycharth ger Llangedwyn ym Mhowys ac yno roedd o a'i wraig a'i blant yn byw. Yn ddiddorol iawn, roedd Owain yn agosau at ei bumdegau cyn iddo ddechrau gwrthryfela.
Roedd y gwrthwynebiad i'r ffordd yr oedd y Saeson yn trin y Cymry yn cynyddu ar draws Cymru. Atgyfnerthwyd ymdeimlad Owain o Gymreictod pan ddechreuodd ffraeo gyda'i gymydog yr Arglwydd Grey o Ruthun, un o gyfeillion y Brenin Henry IV. Y ffrae yma arweiniodd at wrthyryfel Owain Glyndŵr, ei ymosodiad ar Ruthun a'i gyhoeddi'n Dywysog Cymru. Yr ymosodiad ar Ruthun oedd y cyntaf mewn cyfres o ymosodiadau ar Fflint, Rhuddlan, Holt, Croesoswallt a'r Trallwng.
Cyhoeddwyd Owain yn herwr ond fe gynyddodd ei achos. Ymunodd cannoedd o ddynion cyffredin yn ei wrthryfel am annibyniaeth i Gymru a dychwelodd y Cymry alltud i'w gefnogi. Trechwyd nifer o gestyll Seisnig a chynhaliwyd y senedd gyntaf ym Machynlleth ac arwyddwyd cytundebau ffurfiol rhyngwladol gyda Ffrainc a'r Alban.
Llythyr Pennal
Enillodd gestyll Aberystwyth a Harlech ac erbyn 1405 fe gydnabyddid ei awdurdod Cymru benbaladr. Ond yn dilyn y llwyddiannau, fe ddaeth y methiannau yng Nghastell Grosmont a Phwllmelyn ger Bryn Buga.
Apeliodd Glyndŵr eto i Ffrainc am gymorth mewn llythyr a ysgrifennwyd ym Mhennal ger Machynhlleth. Mae Llythyr Pennal ar gael heddiw yn Archifdy Cenedlaethol Ffrainc. Cyfrifir y llythyr heddiw yn destament i weledigaeth Owain am Gymru rydd. Ond ar waethaf ei holl sgiliau diplomyddol, ni ddaeth ateb o Ffrainc.
Fe frwydrodd Owain i'r pen yn ei gastell olaf sef Harlech yn 1409. Ychydig a wyddys am y frwydr ond fe lwyddodd Owain i ddianc. Carcharwyd ei wraig, ei ddwy ferch a'r ŵyr yn Llundain ac yno y buont farw. Treuliodd Glyndŵr weddill ei ddyddiau gyda'i fab yng nghyfraith Syr John Skydmore yn Kentchurch yn Swydd Henffordd.
Yn 1415, gwrthododd gynnig o bardwn. Ni wyddys yn iawn sut y bu farw ac mae lleoliad ei fedd yn ddirgelwch mawr hyd heddiw.
Mae'r adeilad lle cynhaliodd Glyndŵr ei senedd gyntaf yn agored i'r cyhoedd ac mae galw am nodi 16 Medi fel diwrnod cenedlaethol Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru.
Ei funud fawr : cael ei gyhoeddi yn Dywysog Cymru ar 16 Medi 1400.
Llwybr Glyndŵr
Dadorchuddio Cofeb Glyndŵr yng Nghorwen