Tair drama'r Urdd ar y maes
Perfformio dramâu Theatr Genedlaethol yr Urdd
Mae'r tair drama a berfformiwyd gan aelodau'r Urdd a fu ar daith o amgylch Cymru yn ddiweddar i'w gweld ar faes yr Eisteddfod yr wythnos hon.
Perfformiodd tair 'talaith' Cwmni Theatr Genedlaethol yr Urdd y dramâu gan awduron ifanc yng Nghaerfyrddin, Caernarfon a Phentre'r Eglwys ger Pontypridd yn ystod mis Gorffennaf.
Ar faes yr Eisteddfod bydd cyfle i'r cynyrchiadau ddenu cynulleidfa genedlaethol yn Theatr y Maes fel a ganlyn:
- Mosgito (Talaith y De) - dydd Sadwrn Awst 2 am 1.00.
- Yn y Ffrâm (Talaith y Canolbarth) - dydd Mawrth, Awst 5 am 3.30.
- Rapsgaliwns,(Talaith y Gogledd) - dydd Iau, Awst 7 am 4.30.
Adolygiadau o'r dramâu: