麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

麻豆社 VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


麻豆社 Homepage
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Coron y copaon

6 Awst 2007

Fi enillodd - Tudur Dylan Jones

Ond mynydd i'r beirniaid ei ddringo

Geiriau mewn ysgrif gan D Tecwyn Lloyd sbardunodd y syniad y tu 么l i'r cerddi a enillodd ei Goron gyntaf i Tudur Dylan Jones.

"Roedd o wedi dweud am rhyw steddfod - Steddfod Llandderfel - mewn ysgrif, fod pob un yn mynd adref dros ei fynydd ei hun ac roedd hwnna wedi nghyffwrdd.

"Lle bynnag ydych chi'n mynd, er eich bod chi yn yr un lle a phawb arall, eich bod yn mynd adref eich ffordd eich hun," meddai wrth gael eii holi gan y wasg yn dilyn y seremoni i'w goroni

example

Tudur Dylan

"Yn mynd dros eich mynydd eich hun - ac mae'r gerdd gyntaf yn s么n am rywun yn creu ei fynydd ei hun er mwyn ei oresgyn. A dyna'r cerddi i gyd mewn gwirionedd .Yr ymgais yma i drio goresgyn unrhyw anawsterau sy'n dod ardraws rhywun ac efallai chwilio am rhyw fan gwyn fan draw," ychwanegodd.

Ac yn wir bu coroni Tudur Dylan ar y testun gosodedig, "Copaon", yn dipyn o gopa i feirniaid y gystadleuaeth ei oresgyn hefyd gyda chryn anghydweld rhwng Gwyn Thomas, a draddododd y feirniadaeth a Nesta Wyn Jones a Gerwyn Williams.

Yn y diwedd dau oedd o blaid coroni Tudur Dylan Jones gyda Gwyn Thomas o'r farn mai un o dri arall a haeddai'r wobr.

Gosododd Gerwyn Williams gerddi Tudur Dylan Jones gydag un arall ar y brig.

Dim ond Nesta Wyn Jones ddewisodd ei ymgais ef yn unig.

Disgrifiwyd y cerddi buddugol fel rhai "bychain, cynnil, gl芒n eu crefft, ymataliol a swynol, sydd yn llawn ffresni ac sy'n gyfoes eu mynegiant."

Ychwanegwyd mai "maniffesto dynol" ydyn nhw o blaid byw bywyd yn ymarferol, yn llawn ac ystyrlon" ond bod hynny hefyd "yn gain a chelfydd iawn ei wead" yn 么l Gerwyn Williams a Nesta Wyn Jones.

"Yr wyf yn gallu gweld beth sydd ganddynt," meddai Gwyn Thomas, "ond y mae yn y dilyniant hwn elfennau sydd, i mi, yn annelwig, yn enwedig yn y gerdd 'mi wn'; ac ni lwyddodd fy nghyd feirniaid i'm hargyhoeddi ynghylch yr anelwigrwydd hwn."

Yngl欧n a'r anghytundeb hwn dywedodd Tudur Dylan Jones ei fod yn rhan o "draddodiad hir a llewyrchus cystadleuaeth y goron a'r gadair."

"Mae rhywun yn disgwyl, gydag unrhyw fath o gelfyddyd nad ydi pawb ddim yn mynd i gytuno ac mae gen i barch mawr at farn y tri beirniad ac rydw i'n edrych ymlaen ar ddarllen y beirniadaethau unigol," meddai

"Ac mae'n ddrwg gen i na fedrai fod yn fwy 'controversial' na hynny!" meddai.

example

Tudur Dylan

Ymhlith y cerddi yn ei gasgliad y mae cerdd i'w ferch 17 oed Catrin ar gyfer ei phen-blwydd yn 18.

"Mae hi'n fath o gerdd na fuaswn i eisiau iddi hi ei darllen achos mae rhywun yn cyrraedd rhyw oedran arbennig pan yw'n gweld nad ydi bywyd yn ddu a gwyn a bod yna rhyw elfen o lwyd ym mhob bywyd ac mae'r sylweddoliad yna yn rhywbeth pan yw rhywun yn aeddfedu, pan fo rhywun yn dod i sylweddoli," meddai.

Mae cerdd arall i'w ferch arall Siwan 13 oed.

"Rhag pechu rydw i wedi defnyddio rhywbeth roedd y ferch ifancaf wedi'i ddweud pan aethom ni i chwilio am goeden Nadolig fyny yn yr atig yr oedd hi wedi dweud, yn hytrach na mod i wedi ffeindio coeden fy mod wedi 'ffeindio'r Nadolig' ac roeddwn i wedi gwirioni ar y dywediad ac mi wnes ei ddwyn o ganddi hi a'i ddefnyddio yn un o'r cerddi," meddai.

Pan enillodd ei ail gadair genedlaethol yn Eisteddfod Eryri yn 2005 dywedodd Tudur Dylan Jones iddo gystadlu er mwyn cael cadair yr un i'w ddwy ferch.

Ond yn awr bod ganddo goron wedi ei hychwanegu at y cadeiriau hynny nid oedd am ddweud a fyddai'n cystadlu am un arall i gadw'r ddisgl yn wastad.

"Dydw i ddim yn si诺r, ddim yn si诺r," meddai gan ychwanegu fod ennill y goron eleni wedi ennill dwy gadair "yn goron ar y cyfan".

Gwyliwch y Coroni



About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy