Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2005

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2005

Mwy o'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Newyddion

Cysylltiadau Eraill

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Bryn Terfel Cyngerdd olaf ar y teledu
Hanes Llywelyn Fawr gan Robat Arwyn
Bydd cyngerdd cloi'r Eisteddfod Genedlaethol, gyda'r bariton Bryn Terfel, yn cael ei ddarlledu'n fyw ar S4C, Sadwrn, Awst 6 am 20.30.

Daeth S4C a Â鶹Éç Cymru, sy'n cynhyrchu darllediadau'r Eisteddfod ar S4C, i gytundeb munud olaf gyda'r trefnwyr.

Ar y sioe, Er Hwylio'r Haul, perfformir gwaith newydd, 16 cân, y cyfansoddwr Robat Arwyn, am y tro cyntaf. Mae'n adrodd hanes un o dywysogion olaf Gwynedd, Llywelyn Fawr.

Cymerir rhan gan Bryn Terfel, y soprano Mari Wyn Williams a Chôr Ieuenctid yr Eisteddfod o dan arweiniad Pat Jones.

Fel arfer, y cystadlaethau mawr fel y Corau Meibion a Gwobr Goffa David Ellis, Y Rhuban Glas, sydd ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod.
Bu hynny nos Wener eleni.

Hufen cerddorol
"Mae'r sioe yn tynnu ynghyd hufen cerddorol Gwynedd - y cyfansoddwr Robat Arwyn, sy'n wreiddiol o Ddyffryn Nantlle, Bryn Terfel o Bantglas a'r soprano Mari Wyn Williams o Lanberis," meddai llefarydd ar ran S4C.

.Mae Robat Arwyn, llyfrgellydd sy'n awr yn byw yn Rhuthun, wedi cyfansoddi nifer fawr o ganeuon cofiadwy, Yn gyn aelod o'r grŵp Trisgell, mae wedi ysgrifennu deg o sioeau cerdd, saith ohonynt wedi'u comisiynu gan yr Eisteddfod Genedlaethol.

Meddai Bryn Terfel:
"Mae'n wych bod yr Eisteddfod wedi comisiynu Robat Arwyn i ysgrifennu'r gwaith cerddorol am un o dywysogion mawr Gwynedd, Llywelyn Fawr. Rwy'n siŵr mai hwn fydd y cyntaf o sawl perfformiad. Bydd yn fraint hefyd rhannu llwyfan gyda'r soprano ifanc, ddisglair, Mari Wyn Williams."

Tocynnau - 0845 1221176.


Mwy o storiau Dydd Sadwrn


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý