Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2005

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2005

Mwy o'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Newyddion

Cysylltiadau Eraill

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Gwilym Owen Gwilym dydd Sadwrn
Ergydion o'r Steddfod bob dydd
Ydych chi'n bwriadu dod ar bererindod i Steddfod Fawr Snowdonia eleni?
Gobeithio eich bod chi.

Mae angen pob copa walltog i fynd drwy'r clwydi.

EisteddfodYn wir, yn ôl ffigurau y Steddfod ei hun, rhaid gwerthu gwerth £530,000 o docynnau os ydi Prifwyl Eryri i ddangos elw o £5,000 ar y diwedd.

Ydi, mae pethau mor ddrwg a hynny ar yr hen jyncet fawr.

Ond cofiwch, dydi hi ddim yn "argyfwng" ar y Brifwyl.
Yn ôl Llywydd y Sanhedrin, mae'r gair "argyfwng" yn dân ar ei groen -
Er bod y Steddfod yn hercio o un twll ariannol i'r llall,
Er bod ansicrwydd ynglŷn â chael lle i roi ei phen i lawr yn 2007,
Er bod yr awdurdodau lleol yn methu cytuno ar gynllun ariannu newydd,
Er bod Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi comisiynu adroddiad sy'n ddifrïol o weinyddiaeth y Steddfod
Ac er bod Alun Pugh, y Gweinidog Diwylliant, wedi pwysleisio nad oes siec benagored ar gael - eto i gyd chaiff neb awgrymu ei bod hi'n "argyfwng".

Felly, peidiwch meiddio defnyddio'r gair ar Faes y Faenol.

Cyrraedd y Maes
Hynny ydi, wrth gwrs, os byddwch chi wedi llwyddo i gyrraedd y maes o gwbl.

Nid codi bwganod ydi awgrymu y gallai yna fod broblemau trafnidiaeth mawr ym mro'r Brifwyl eleni.

Ym marn y Sanhedrin, ddwy flynedd yn ôl, ac ar ôl cryn gecru a dadlau dim ond yn y Faenol y gellid cynnal Eisteddfod Eryri.

Mae ardderchog medda nhw, gyda phob cyfleustra ac efallai bod hynny'n wir.

Ond sut mae cyrraedd y nefoedd ar y ddaear hon?

Y gwir amdani yw nad oes yna ond un fynedfa a honno yw'r ffordd allan hefyd.

Mae posibiliadau tagfeydd traffig erchyll yn yr ardal. Hynny ydi, os na ellir cael bylchau mawr yn waliau'r stad - ond ni ddigwyddodd hynny.Archdderwydd newydd
Ond rhoswch funud, dydi pethau ddim yn ddrwg i gyd.

Mae gan Orsedd y beirdd Archdderwydd newydd. Daeth tymor Robyn LlÅ·n i ben a chymerodd Selwyn Iolen ei le - a synnwn i ddim nad ydi'r Sanhedrin yn falch fod y newid wedi digwydd.

MeiniDoedd yr Archdderwydd Robyn ddim yn brin o dynnu blewyn o drwyn y weinyddiaeth eisteddfodol ac fe fu'n dipyn o bloryn ar eu penolau.

Cerrig plastig
Ac mae gan y Gorseddigion gylch newydd, plastig, eleni a hynny ar y Maes ei hun.

Mae'n drist meddwl na chafodd John Roberts Williams, cenhadwr mawr y datblygiad plastig, fyw i weld gwireddu ei freuddwyd - ond dwi'n siŵr y bydd o'n edrych i lawr ac yn gwenu!

Heb feithrin
Datblygiad arall sy'n haeddu canmoliaeth yn Steddfod Fawr Snowdonia ydi'r penderfyniad i gael gwared o'r feithrinfa er mwyn arbed arian.
Go dda'r Sanhedrin! Pam ddylai mamau dosbarth canol Cymraeg ddympio eu hepil ar wirfoddolwyr tra'n mwynhau eu hunain yn ymdrybaeddu yn niwylliant y genedl - medda nhw.

Eleni, ewch a'ch plant efo chi, dyna'r neges eisteddfodol - a da o beth hynny.

I Lerpwl?
A siawns na ddaw Steddfod y Faenol a phob math o ddatblygiadau eraill i'r amlwg. Efallai y bydd yr hyn na allwn ei alw yn argyfwng yn gorfodi Prifwyl 2007 i roi ei phen i lawr yn Lerpwl.

Efallai y bydd rhywun o blith y bosus eisteddfodol yn ddigon mawrfrydig i ddatgan mai annheg yw beio penderfyniad Bwrdd yr Iaith i gwtogi grant y Steddfod yn unig am y sefyllfa nad yw yn "argyfwng" - a bod peth o'r cyfrifoldeb arnyn nhw - y Sanhedrin.

Byd papur
Ac yn bwysicach na dim, i mi, efallai y daw Ned Thomas a Chwmni Dyddiol Cyf i Brifwyl Snowdonia i gyflwyno Golygydd y papur dyddiol hirddisgwyledig, Y Byd.

Ond dyna fo, peth braf ydi breuddwydio ynte?
Gwela i chi ar y Maes - neu yn y ciw yn y car!

.Bydd Gwilym Owen yn darlledu'n ddyddiol o'r Steddfod ar y Post Cyntaf bob bore ar Â鶹Éç Radio Cymru.


Mwy o storiau y Penwythnos cyntaf


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý