Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2005

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2005

Mwy o'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Newyddion

Cysylltiadau Eraill

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Lowri - sy'n dilyn y gigs i Â鶹Éç Cymru'r Byd Lowri yn dilyn y bandie
Lowri Johnston yn gig Brwydr y Bandie a Radio Luxembourg, Maes B Awst 1

Mae'n wych bod cymaint o gigs yn wythnos yr Eisteddfod o safbwynt y sîn gerddoriaeth Gymraeg - ond mae'n anodd gorfod dewis rhyngddynt!

Dwi methu penderfynu o gwbl rhwng gig Cymdeithas yr Iaith ym Mangor a gig Brwydr y Bandie, Maes B...

Ond maes B sy'n mynd â hi yn y diwedd a hynny ar ôl taflu ceiniog. Dwi'n gobeithio felly fod y geiniog wedi gwneud y dewis cywir!

Yn anffodus dwi'n cyrraedd y gig wrth i set y band cyntaf ddirwyn i ben!

Datblygu'n aruthrol
Ond Mr McFee sydd ymlaen nesaf, a dwi heb weld rhain ers iddynt ddod yn ail yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau, Uned 5, ddwy flynedd yn ôl.

/>Yn fand ifanc o ardal Dinbych, mae wedi datblygu yn aruthrol dros y ddwy flynedd ddiwetha'.

Gyda dylanwadau Mogwai, Sigur Ros a Radiohead yn amlwg yn y caneuon, dyma fand sy'n wahanol i unrhyw fand arall ar y sîn ar y foment, heblaw Mwsog sy'n dod o'r un ardal...!

Ond mae'n fand ifanc ac mae lle i ddatblygu llawer eto.

Maen nhw i gyd yn abl iawn ar eu hofferynnau a chyda mwy o ymarfer a pherfformiadau byw, mae'r potensial yna i ddatblygu i fod yn fand gwych.

Ar ei orau
Yn anffodus dwi'n colli'r band nesa' hefyd wrth fynd i fwydo'n mola yn y Gorlan!

Ond dwi nôl yn y gig erbyn Ha Kome sydd ar ei orau heno gyda rhan helaeth o'r gynulleidfa yn dawnsio.

Ha Kome Band ysgafn o Grymych yw Ha Kome, "Y Thrills Cymraeg" yn ôl un o'r gynulleidfa, ac mae eu sengl cyntaf allan yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Plant Duw o Fangor sydd ymlaen nesaf a rhain sy'n disgleirio yn y gystadleuaeth yn bendant. Caneuon tyn a pherfformwyr da iawn. Edrych ymlaen i glywed mwy ganddynt!

Enillwyr Brwydr y Bandiau C2 sydd ymlaen nesaf sef No Star. Dwi ond yn gweld y gân olaf sef fersiwn o Sosban Fach sy'n dda iawn!
Cystadleuaeth o safon uchel iawn gyda phob band yn plesio.

Mwy profiadol
Radio Luxembourg sy'n cloi'r noson ac mae'r gwahaniaeth rhwng band mwy profiadol â bandiau y gystadleuaeth yn fawr. Radio Luxembourg Er mod i 'di gweld Radio Luxembourg nifer o weithiau, dyma'r perfformiad orau i fi weld gyda'r gynulleidfa yn mynd yn wallgo!

Noson wych o gerddoriaeth gyda pawb i'w gweld yn mwynhau. Braf gweld cymaint o botensial ym mandiau Cymru.


Mwy o storiau Dydd Mercher


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý