Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2005

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2005

Mwy o'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Newyddion

Cysylltiadau Eraill

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Gwilym Owen Gwilym Owen - dydd Mercher
Dyddiau'r cŵn yn stafell y wasg
Hawddamor o Faes Steddfod Fawr Snowdonia ar fore Mercher.
A maes lle mae yna bethau mawr wedi bod yn digwydd ydi o hefyd.

Ddoe, er enghraifft, fe glywsom am ailenedigaeth.

Ailenedigaeth neb llai na'r Arglwydd Dafydd Elis Thomas.
Ei ailenedigaeth fel Ewropead a ddigwyddodd medda fo pan oedd o'n fyfyriwr yn astudio llenyddiaeth yr Oesoedd Canol ym Mhrifysgol Bangor.

'Sgwn i a gafodd rhywun arall brofiad tebyg.
Go brin.

Cartref symudol
A phrofiad digon rhyfedd â gafodd cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Ŵyl hon yn ôl sibrydion.

Daeth yma yn gynnar i'r Å´yl ac i'r maes carafannau.

Cafodd le i barcio ei gartref bach cysurus mewn lle hwylus.
Ond och a gwae roedd wedi dewis man oedd ar un o lwybrau'r Maes a fu'r gweithwyr fawr o dro yn troi olwynion Moi.

Embaras, hwnna ydio.

Penwisgo
Mae'r profiad o fod yn gyn archdderwydd yn un digon trist mae'n debyg - a'r sylw i gyd wedi diflannu.

Robyn LewisOnd rhoswch chi funud, mae Robyn LlÅ·n yn dal i lwyddo i ddenu dynion y camera.

Acerbyn eleni mae'n ymddengys fod ganddo benwisg newydd unigryw a rhyfeddol nas gwelwyd ei thebyg yng ngorsedd y beirdd o'r blaen.
Rhaid cael golwg arni y pnawn yma.

Enwau iawn
Mae hogia Heddlu Gogledd Cymru wedi cael hwyl ardderchog yn cadw trefn ar drafnidiaeth y Steddfod ac mae'r Prif gopyn Brunstrom, oedd ar y Maes ddoe, wedi gwneud cyhoeddiad pwysig.

Mae'n rhaid i bob plismon yn y gogledd allu ynganu enwau lleoedd yr ardal yn gwbl gywir, medda fo.

Da iawn, Richard, meddwn innau. Gobeithio y bydd y cyfryngau yng Nghymru yn gweithredu yn yr un modd!

Sylw dyledus
Mae yna griw rhyfedd tua phencadlys y Daily Post.
Pennawd bras tudalen flaen ddoe yn cyhoeddi: "Faenol Success."

Stori hir am y Steddfod meddwn innau - ond na, dim o'r fath beth gan mai trafod gwerthu tocynnau Gŵyl Bryn Terfel oedda nhw ac, yn waeth na hynny, rhoi erthygl olygyddol i'r ŵyl honno hefyd.

Ac yn waeth, waeth, byth cyfeirio at yr Archdderwydd Selwyn Griffiths fel Mr Iolen!

Ac eto - nid myfi
A thra'n cyfeirio at anghrediniaeth; peidiwch â chredu popeth a welwch yn y rhifyn Steddfod o Dim lol.

Na, dydi Gwilym Owen erioed wedi gweld rhifyn o'r rhaglen Cylch Cinio heb sôn am sgwennu gair amdani.

Sawl cyfraniad disail arall sydd yn y cylchgrawn 'sgwn i?

Tua Lerpwl
Heddiw ydi'r diwrnod pan fydd DafyddWigley yn cyflwyno ei araith fel Llywydd y Dydd.

Ac mae o, dwi'n deall, yn barod iawn i weld y Brifwyl yn mynd i Lerpwl - os nad oes cartref iddi yn y gogledd yn 2007.

Tybed a fydd o'n rhoi cic ym mhen ôl y Sefydliad i'r cyfeiriad hwnnw y pnawn yma.
Da o beth fyddai hynny.

Dyddiau'r cŵn
A gorffen efo gair o groeso!
Dyda ni ddim wedi cael ci ym Mhabell y Wasg yn y Brifwyl ers dyddiau Caradog a Mati Pritchard a Benji.

fghOnd eleni mae Nedwyn John wedi dod atom ni. Mwngrel bach Tegwyn a Margaret Roberts y tynwyr lluniau eisteddfodol.

Yn wahanol i Benji dydi Nedwyn ddim yn brathu neb - ond fel steddfodwr go iawn mae o'n barod i ganu!
O faes y brifwyl. Bore da.

  • Mae Gwilym Owen yn darlledu bob bore ar y Post Cyntaf, Â鶹Éç Radio Cymru.

Mwy o storiau Dydd Mercher


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý