Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2005

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2005

Mwy o'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Newyddion

Cysylltiadau Eraill

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Elfyn Pritchard un o feirniaid y gystadleuaeth Cwyno am safon iaith nofelwyr
Methu gwobrwyo'r nofel orau
Daeth safon sgrifennu Cymraeg dan ordd beirniaid gwobr Goffa Daniel Owen yn Eryri eleni.

Yn eu beirniadaeth gyfansawdd - a gyhoeddir yng nghyfrol y Cyfansoddiadau a'r Beirniadaethau heddiw - dywed Elfyn Pritchard, Bethan Mair a Chatrin Puw Davies fod nifer y rhai â ymgeisiodd ar y gystadleuaeth hon yn "destun llawenydd".

Ond maen nhw'n ychwanegu:
"Nid felly lawer o'r mynegiant sydd yn y nofelau hyn."

Hen gŵyn
Ac maen nhw'n ychwanegu nad rhywbeth newydd, eleni, yw y pryder hwn am safon iaith cystadleuwyr:

"Y mae pwnc yr iaith gyda ni'n wastadol ac nid yw'r flwyddyn hon yn eithriad," meddent gan ychwanegu:

"Yn 2002, cyfeiriodd y beirniaid at lacrwydd y defnydd o'r ferf, at bwysigrwydd cael gafael sicr ar iaith a chystrawen draddodiadol cyn mynd ati i lafareiddio neu i symud yr iaith yn ei blaen."

Wrth amenio cwynion beirniaid y gorffennol am ddiffygion iaith dywedant:

"Yn 2004, ar ôl cyfeirio at nifer o wallau mynegiant a chystrawen, mae un beirniaid yn gofyn: 'Sut y mae trafod a chyfnewid syniadau heb gystrawen sicr?'

"Cwestiwn arwyddocaol.
I'r llenor, y gystrawen yw'r craidd, fel y mae'r gynghanedd yn hanfodol i fardd y mesurau caeth ac ni ellir dychmygu sefyllfa lle y byddai beirniaid y gadair am wobrwyo awdl sy'n llawn o wallau cynganeddol.


"Nid elfen sy'n ychwanegol i gynllunio a datblygu syniadau, i ddisgrifio a chymeriadu, i gyfleu gwrthdaro rhwng cymeriadau yw mynegiant, ond rhan annatod o'r holl wead," meddir."

Llyfrau gramadeg
Ymddengys fod pethau wedi mynd mor ddrwg y mae'r beirniaid eleni yn teimlo'r angen i ddweud wrth "ddarpar nofelwyr" cyfoes pa lyfrau gramadeg ddylai fod wrth law ganddynt i droi atynt.

Ac i wneud yn siŵr hefyd fod Cysill "yng nghrombil eu cyfrifiaduron".

Y llyfrau sy'n cael eu cymeradwyo ganddynt ydi: Canllawiau Iaith a Sillafu, J Elwyn Hughes, Cywiriadur Cymraeg, Morgan D Jones, Gramadeg y Gymraeg, Peter Wynn Thomas a Geiriadur yr Academi, Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones er mwyn "sicrhau na fyddai awduron yn trosi'n uniongyrchol idiomau a phriod-ddulliau ac ymadroddion Saesneg i'r Gymraeg, rhywbeth sy'n bla mewn llawer o ysgrifennu, ac sydd wedi treiddio i fêr esgyrn llenyddol bron bawb ohonom erbyn hyn," meddant.

Colli'r nofel orau
Yn wir, syrthiodd y nofel y gellid ei hystyried yn un orau y gystadleuaeth hon gan Luc Swan ar ochr y ffordd oherwydd bod gormod o wallau iaith ynddi!

"Mae'n ddiamau mai Luc Swan yw meddwl praffaf y gystadleuaeth a'r athrylith mwyaf sydd ynddi ... ond er ein bod yn barod i ganiatáu rhai gwendidau ieithyddol ... onid oes yna hefyd ffiniau y mae'n rhaid cadw o'u mewn gan gofio'r cwestiwn ... 'Sut mae trafod a chyfnewid syniadau heb gystrawen sicr?'"

Ychwanegant nad oedd y gwaith a wobrwywyd, hyd yn oed, heb ei wendidau ieithyddol ond nad oeddent yn rhai mor ddifrifol â rhai Luc Swan.


Mwy o storiau Dydd Gwener


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý