Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2005

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2005

Mwy o'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Newyddion

Cysylltiadau Eraill

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Lowri Lowri'n gigio
Gig Cymdeithas yr Iaith: Amser Bangor. Awst 4, 2005.
Rasputin, y Llofruddion, Eryr, Kenavo, Ashokan, Cofi Bach a Tew Shady, Anweledig.

Tan heno mae gigs Cymdeithas yr Iaith wedi bod mewn ystafell sydd ond yn dal cwpwl o gannoedd, ond heno mae nhw'n symud i ddarn arall o'r Undeb Myfyrwyr gyda lle i fil o bobl ac mae'r gigs dros ddau lwyfan.

Ar y llwyfan mawr mae'r bandiau roc ac ar y llwyfan llai mae'r rhai hip hop sy'n rhoi digon o amrywiaeth bandiau.

Rapio'n wych
Ar ôl colli set Rasputin dwi'n cyrraedd i weld y Llofruddion sef prosiect Ed o Pep Le Pew. Mae tri o rapwyr ar y llwyfan - Ed a dau arall dwi ddim yn adnabod. Dyma'r tro cyntaf imi gweld nhw Mae'r rapio yn wych ac mae'r tri yn gweithio'n dda gyda'i gilydd.

Ond brysio draw wedyn i weld Eryr ar y llwyfan mawr ac fel arfer maen nhw ar eu gorau gan lwyddo i gadw sylw'r gynulleidfa er nad yw'r lle yn llawn iawn eto. Maen nhw'n chwarae caneuon newydd ond hefyd yr hen ffefrynnau - Bomb Culture, Yr Un Hen Heddiw.

Ac ychwanegiad bach neis yw eu fersiwn o gân Mattoidz sy'n digwydd bod yn y gynulleidfa. Maen nhw'n gweithio'n dda gyda'i gilydd fel band, i gyd yn gerddorion talentog yn enwedig y gitarydd a'r drymiwr.

Draw wedyn i weld Kenavo ac mae cwpwl o aelodau'r Gorlan wedi ymuno gyda nhw i rapio. Set dda iawn a dweud y gwir, ac Owain Morse sydd wedi ymuno â nhw yn wych yn rapio a chyfathrebu gyda'r gynulleidfa gan ddal sylw pobl.

Mae sgiliau rapio Cynan yn well bob tro ewy'n i gweld e.

Gwneud yn dda
Ac yna Ashokan ar y llwyfan mawr.
Ers i Alun adael y band, Rhys 'Donut' Jones sydd wedi cymryd yr awenau gan chwarae'r rhan yn dda iawn chwarae teg!
Mae eu caneuon wedi newid yn fawr dros y flwyddyn gyda'r band wedi datblygu steil llawer trymach.

Er gwaetha' absenoldeb Aled y gitarydd mae'r set yn dyn ac yn llawn egni. Rydym ni'n cael clywed cwpwl o ganeuon newydd sy'n swnio'n addawol iawn.

Cofi Bach a Tew Shady sydd ymlaen nesa' ac unwaith eto dwi'n mwynhau'r set yn fawr. Dyma'r ail dro imi gweld nhw'n fyw ac maen nhw wedi datblygu a gwella llawer mewn amser byr. Maen nhw'n chwarae eu sengl gyntaf Trio hi ar gyda Cofi Bach yn amlwg wedi magu hyder ar lwyfan yn ddiweddar.

Prif fand y noson
Ac yna draw i weld prif fand y noson, Anweledig. Dwi'n cael lle reit yn y canol yn y blaen ac yn cael fy ngwasgu yn erbyn y bariau. Ond does dim ots o gwbl achos mae'r awyrgylch yn drydanol wrth iddynt agor y set gydag Eisteddfod sy'n cael pawb i ddawnsio'n wyllt.

Uchafbwynt y set i mi yw Cae yn Nefyn gyda'r gynulleidfa i gyd yn mynd yn hollol nyts.

Fel arfer, mae Ceri Cunnington yn cyfathrebu'n dda gyda'r gynulleidfa ac maen nhw'n amlwg yn cael llawer o hwyl yn perfformio.

Yn ystod Peryg Mewn Ffrij maen nhw'n dod ag oergell i'r llwyfan a Cheri'n trio dringo i mewn - a methu gyda steil. Dwi'n mwynhau yn fawr iawn a daw'r set i ben llawer rhy fuan.

Digon o amrywiaeth
Noson dda iawn gyda digon o amrywiaeth cerddoriaeth i gadw rhywun yn brysur a system y ddau lwyfan yn gweithio'n dda iawn gydag un yn dechrau pan fo'r llall yn gorffen sy'n golygu rhyw bedair awr o gerddoriaeth heb stop.
Brysio draw wedyn ar fws y Tafod i ddal diwedd set Kentucky AFC ym Naes B sy'n wahanol i'r arfer gydag ychwanegiad ffliwt a bongos a chaneuon llawer mwy ffynci nag arfer.

Ar ôl y gig dwi braidd yn gallu clywed oherwydd y gerddoriaeth uchel...
Arwydd pendant o noson dda!

Mwy o storiau Dydd Gwener


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý