Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2005

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2005

Mwy o'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Newyddion

Cysylltiadau Eraill

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Gruff Rhys Gruff Rhys yn erbyn y sŵn
Annheg gyda'r Dyn ei Hun
Lowri Johnston yn Gig Cymdeithas yr Iaith: Fflur Dafydd a'r Barf, Winabego, Gruff Rhys a DJ Andy Votel, Amser Bangor.

Ar ôl i'r tocynnau gael eu gwerthu i gyd mewn hanner awr fore Sadwrn yr Eisteddfod, dyma'r gig mae pawb wedi bod yn siarad amdano.

Mae rhyw dyndra yn y gwynt wrth i bobl giwio tu allan yn diswgyl i'r drysau agor.

Fel un o'r cynta' i'r gig, dwi'n lwcus i gael sedd reit yn y blaen ac yn penderfynu aros yno am y noson!

Tro cyntaf
Fflur Dafydd sydd ymlaen gyntaf a dyma'r tro cyntaf i fi weld hi gyda band llawn. Mae hyn yn gwneud llawer o wahaniaeth i'w pherfformiad.

Fflur Dafydd Er ei bod hi'n wych yn acwstig, mae'r set heno yn fwy o hwyl a hithau i'w gweld yn mwynhau'n fawr.

Mae'n gorffen gyda Y Gân Go Iawn sy'n gân Johnny Panic gynt ac mae'n ffantastig. Solo dryms gwych ac mae sŵn y bass yn hiwj gan ddangos doniau cerddorol y band.

Maen nhw i gyd yn amlwg yn cael hwyl ac yn gweithio'n dda gyda'i gilydd.

Cerddoriaeth fawr
Winabego sydd ymlaen nesa ond er fy mod i'n mwynhau'r gerddoriaeth yn fawr iawn mae'r perfformiad ychydig yn anniddorol.

Wrth ganu cân am lawenydd maen nhw'n edrych fel bod y byd yn dod i ben ac heb edrych ar y gynulleidfa.
,br>Fel band gyda cherddoriaeth dda iawn, wnan nhw ddim datblygu nes eu bod yn bwrw eu swildod.

Ond mae caneuon fel Unarddeg Dyn i Lawr yn dda iawn - fferfryn personol!

Y Dyn i Hun
Ac yna'r dyn ei hun, Gruff Rhys.
Erbyn hyn mae'r lle yn hollol lawn a'r awyrgylch yn wych a finna'n teimlo'n lwcus iawn o gael sedd reit yn y blaen!

Grudd RhysMae'n agor gyda Gwn Mi Wn ac fel un a welodd bedair noson o'i daith o gwmpas Cymru yn ddiweddar, does dim byd newydd yma.

Yr un jôcs, yr un diddan.
Ond dyw hyn ddim yn feirniadaeth - dim ond siom ar fy rhan i!

Mae'n chwarae'r holl ffefrynnau o'i albwm Yr Atal Genhedlaeth fel Rhagluniaeth Ysgafn, Epynt a Gwybodusion.

Mae hefyd yn chwarae Pwdin Wy mewn tair rhan yn lle dwy gan fod ei gitâr ychydig allan o diwn!

Dyma stori garu hynod o drist rhwng Pwdin Wy a'i darpar ŵr, Bara Brith.

Yn y rhan gyntaf, maen nhw'n gariadon hynod o hapus ond yna yn yr ail ran mae Pwdin Wy yn cael salwch sy'n peryglu ei bywyd.

Pobl ddim yn gwrando
Dyma un o ganeuon trista'r iaith Gymraeg ond, yn anffodus, dyw rhan helaeth o'r gynulleidfa ddim yn gwrando a llawer yn sefyll wrth y bar yn siarad.

Hyd yn oed pan yw'n chwarae Cryndod yn Dy Lais sydd fel arfer yn gallu tawelu'r cynulleidfaoedd mwya' swnllyd dyw pobl ddim yn gwrando; a hynny, yn amlwg, yn amharu ar berfformiad a hwyliau Gruff.

Ar ôl gofyn nifer o weithiau am ychydig o dawelwch mae'n rhoi heibio poeni ac yn canu cân 'newydd' sydd ond yn ailadrodd y gair gyrru.

Mae pawb yn y gynulleidfa sydd wir eisiau bod yno yn mynd yn flin gyda'r bobl sy'n siarad wrth y bar a hynny'n effeithio ar y gig.

Ar gyfer yr ±ð²Ô³¦Ã´°ù mae Alun Tan Lan yn ymuno i ganu Chwarae'n Troi'n Chwerw a Ni yw y Byd gyda Gruff ond mae'n eitha' amlwg erbyn hyn fod Gruff wedi cael digon - sy'n drueni mawr.

Noson dda iawn ond yn anffodus roedd gormod o bobl yno nad oedd wir eisiau bod yno.

Gobeithio na fydd hyn yn golygu mai dyma'r tro ola' i Gruff Rhys chwarae gig mor ecsgliwsif.


Mwy o storiau Dydd Gwener


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý