麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Eisteddfod 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


O'r Maes
Adolygiad: Drama, dawns a jazz

Golygfa o <i>Dan y Wenallt</i>Doedd gen i ddim syniad beth i'w ddisgwyl wrth i mi gamu i Theatr y Maes i weld addasiad newydd Ioan Hefin o Dan y Wenallt.

Wedi darllen mai "cynhyrchiad arbrofol ac unigryw" oedd hwn yn mynd i fod roeddwn i'n go amheus.

Rydw i wrth fy modd â'r ddrama arbennig hon 'ar gyfer lleisiau' gan Dylan Thomas, gyda'i chymeriadau lliwgar. Drama sydd wedi cydio yn nychymyg cymaint o bobol ac wedi hudo cymaint o wrandawyr dros y blynyddoedd.

Wedi gweld bod yr addasiad yn cynnwys cerddoriaeth jazz a dawnsio gwerin roeddwn i hyd yn oed yn fwy amheus a fyddwn i'n mwynhau'r cynhyrchiad newydd hwn.

Cyfuno argraffiadau
Yr hyn a wnaethpwyd oedd cyfuno argraffiadau o waith Dylan Thomas gan T.James Jones a Fflur Dafydd, gwaith newydd gan Ddawnswyr Hafodwennog, ac yn gefndir i'r cyfan Pumawd Cenfyn Evans yn chwarae sgôr jazz Stan Tracey Under Milk Wood.

Dewiswyd yn sgôr hwn yn ddiweddar fel darn jazz mwyaf poblogaidd yr ugain mlynedd diweddaf.

Fflur Dafydd yn perfformioDechreuodd y noson yn hwyliog gyda Fflur Dafydd a'r band yn perfformio cân o'r enw Tafod Fawr. I ddilyn ddarllenodd Ioan Hefin, Betsan Haf yn ddetholiad o'r ddrama â Fflur Dafydd yn adrodd cerdd.

Roedd y cyfan yn gweithio'n dda ond roeddwn i'n teimlo bod Fflur Dafydd yn llefaru'n rhy gyflym ar adegau. O ganlyniad roeddwn i'n colli darnau pwysig ac felly doeddwn i ddim yn teimlo i mi allu llwyr werthfawrogi'r gwaith.

Wedi hyn perfformiodd y band gân hyfryd a oedd yn sicr yn creu awyrgylch arbennig yn y theatr. Roeddwn i'n un a oedd yn sicr wedi fy swyno gyda'r gerddoriaeth nwyfus.

Creu naws storïol
Un o'r offerynnau a ddefnyddiwyd oedd pib, a chanodd Peter Stacey y gân werin hyfryd honno Beth yw'r haf i mi. Roedd hyn yn creu naws storïol ac yn ein paratoi ar gyfer darlleniad arall o'r ddrama.

Ymunodd y band wedyn a throi i ganu'r gân enwog honno Summertime gyda Ioan Hefin yn darllen darn agoriadol y ddrama.

A do, fe ges i fy mhlesio gan hyn i gyd. Er gwaeth fy amheuon yn camu i'r theatr ar ddechrau'r noson roeddwn i'n mwynhau'r dehongliad arbrofol hwn ac roedd yr amheuon yn dechrau cilio wrth i mi gael fy swyno gan y geiriau hyfryd a'r gerddoriaeth ledrithiol.

Wrth i Ioan Hefin ein cyflwyno i strydoedd caregog Llarregubb ar noson ola leuad roeddwn i wir yn gallu dychmygu'r awyrgylch dawel yn y pentre glan môr arbennig hwn gyda'r trigolion yng nghudd yn eu tai. Mae'n rhaid i mi gyfaddef bod y gerddoriaeth yn gweithio'n wych.

Newid cywair yn rhwydd
Yn ogystal profodd y band eu bod yn gallu newid cywair yn rhwydd i weddu i'r stori. Wedi darn hamddenol a hudolus aeth y pumawd ymlaen i berfformio darn mwy cyffrous a oedd yn llawn tensiwn ac yn arwydd fod y stori'n datblygu.

Cafwyd darlleniad da gan Ioan Hefin oedd yn sicr yn gwneud cyfiawnder â'r ddrama.

Roedd yn amlwg yn gwrando ar y gerddoriaeth yn y cefndir ac yn amseru'r naratif yn berffaith i gyd-fynd â'r sain.

Cafwyd ysbeidiau bwriadol yn y darlleniad er mwyn i ni gael cyfle i fwynhau'r gerddoriaeth.

Roedd y band yn rhan o'r ddrama mewn gwirionedd gyda Ioan Hefin fel petai'n siarad wrthyn nhw yn ogystal â'r gynulleidfa.

Wrth iddo'n rhybuddio i gadw'n dawel "Ust mae'r plant yn cysgu..." tawelodd y gerddoriaeth yn sydyn wrth i'r band ymateb i'w gais. Ymhen ychydig wedyn cafwyd cerddoriaeth fywiog wrth i Ioan Hefin adrodd hanes Capten Cat a'r llongwyr.

Roedd yma briodas dda felly rhwng y naratif a'r gerddoriaeth ac roedd hyn yn holl bwysig os oedd yr arbrawf hwn am lwyddo. Llwyddodd y band i gyflawni ei swyddogaeth o greu naws heb dynnu sylw'r gynulleidfa yn ormodol. Wedi'r cyfan y ddrama oedd bwysicaf.

Y gerddoriaeth yn boddi'r naratif
Ond er gwaetha'r dechrau rhagorol roeddwn i'n teimlo na lwyddwyd i gynnal y cydbwysedd hwn trwy gydol y perfformiad. Wrth i'r actorion ddechrau berfformio'r sgyrsiau rhwng y cymeriadau roedd y band wedi mynd i hwyl ac roedd y gerddoriaeth weithiau'n boddi'r naratif.

Roedd hyn yn drueni gan fod y cyfan wedi gweithio mor dda ar ddechrau'r cynhyrchiad.

Yn ogystal roeddwn i'n teimlo fod y darnau a berfformiwyd gan y band yn rhy hir ar brydiau. Mae'n rhaid cofio mai dehongliad o Dan y Wenallt. oedd hwn i fod ac felly dylid bod wedi rhoi blaenoriaeth i'r ddrama yn hytrach na'r gerddoriaeth. Tasg y gerddoriaeth oedd ychwanegu at y cynhyrchiad ac nid ei feddiannu.

Dim digon o'r ddrama
Gan fod y darnau braidd yn hir, ychydig iawn o'r ddrama a berfformiwyd. Cawsom glywed rhai o'r darnau enwocaf: ymgom a chân Polly Garter, Mog Edwards, Eli Jenkins a'r merched yn hel clecs am Mrs Waldo.

Byddai wedi bod yn amhosib i unrhyw un nad oedden nhw erioed wedi darllen na chlywed y ddrama fod wedi dilyn y stori. Roedd y cynhyrchiad wedi ei anelu at gynulleidfa oedd yn gyfarwydd â'r gwaith.

Ond er fy mod i yn gyfarwydd â'r ddrama ac yn gallu adnabod y darnau a ddarllenwyd, roeddwn i'n dal i deimlo y buaswn i wedi hoffi cael clywed mwy o'r ddrama ac o addasiad hyfryd T James Jones, mae cymaint o gymeriadau lliwgar na chawsant eu crybwyll yma ac mae hyn yn drueni mawr.

Elfen arbrofol arall wrth gwrs oedd cyfraniad Dawnswyr Hafodwenog, ac roedd hyn yn fy marn i yn gweithio'n dda.

Dawnsiodd y criw i gyfeiliant y band tra roedd Ioan Hefin a Betsan Haf yn darllen y darn lle mae merched Llarreggub yn siarad am Mrs Waldo.

Y dawnsio yn cyd-fynd â'r ddeialog
Roedd y symudiadau wedi eu cynllunio i gyd-fynd â'r ddeialog ac roedden nhw'n creu darlun da o'r hyn ddigwyddai yn y ddrama a'r stepio yn cyfleu pobol y pentre yn sgwrsio â'i gilydd.

Daeth y perfformiad i ben gyda darlleniad gwych gan Ioan Hefin o araith y gweinidog Eli Jenkins.

Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i wedi mwynhau'r perfformiad arbrofol hwn ac i'r arbrawf weithio ar y cyfan.

Roedd y cynhyrchiad ar ei orau pan roedd cerddoriaeth dawel a hamddenol yn gefndir i'r darllen a'r naratif yn hawlio'r prif sylw.

Ond fe allai'r cynhyrchiad fod yn llawer gwell o roi mwy o le i'r ddrama ei hun a rhoi llai o bwyslais ar y gerddoriaeth a oedd yn fwy effeithiol o'i ddefnyddio yn gefndir i'r cyfan.


Adolygiad gan Catrin Jones





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Cefndir
Wyddoch chi hyn?

Comedi mewn dosbarth comedi

Yr Archdderwydd newydd

'Lle i enaid gael llonydd'

Araith gyntaf yr Archdderwydd newydd

Heulwen i'r Cymry tramor

'Cadeirydd na fu ei debyg!'

Coron yn deyrnged i fywyd Dewi

Down belows, wês-wês a'r pentigily!

Atgofion Penfro

麻豆社 Cymru yn yr Eisteddfod

Blas Gwyddelig i ddarlithoedd

O'r Maes
Cadeirio Pawb yn y Pafiliwn

Medal i Angharad

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mawrth

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mercher

Cysylltiadau eraill
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002



About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy