麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Eisteddfod 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cefndir Down belows, wês-wês a'r pentigily!

Harddwch PenfroNid yn unig mae i Sir Benfro ei hanes a'i thraddodiadau cyfoethog ond mae iddi hefyd ei Chymraeg arbennig ei hun. Dyma air neu ddau gan Gwyn Griffiths

Gogledd Sir Benfro, eithafol ei thafodiaith a gwydn ei theyrngarwch i'r iaith a'i thafodiaith.

Daeth y Normaniaid ar draws Bro Morgannwg i diroedd ffrwythlon de Sir Benfro ond yn wahanol i Fro Morgannwg lle y daliodd y Gymraeg ei thir hyd yn gymharol ddiweddar diflannodd y Gymraeg yn llwyr o Dde Sir Benfro yn y Canol Oesoedd.

Daeth y Normaniaid â'u caethweision a gwyr arfog Sacsoniaid - o diroedd yr oeddynt eisoes wedi'u concro.

Yna, yn ystod y ddeuddegfed ganrif, daeth yr Harri'r Cyntaf a nifer o Ffleminiaid o arfordir Fflandrys i dde Penfro - ffoaduriaid rhag y môr a lifodd dros y tir.

Daeth Harri II a rhagor o'r bobl hyn yn ystod ei deyrnasiad yntau ac erlidiwyd y Cymry i diroedd tlotach a mynydd-dir y gogledd.

Y down belows
O ganlyniad, nid rhywbeth diweddar yw Seisnigrwydd godre'r sir ond rhywbeth a ddigwyddodd ganrifoedd yn ôl.

Ac fel Saeson yr arferai trigolion de'r sir y "down belows" - ystyried eu hunain.

Y rhyfeddod yw na ledaenodd y Saesneg fawr i'r gogledd na'r rhes o gestyll gwarcheidiol Castell-y-Garn, Hwlffordd, Pictwn, Llawhaden, Arberth draw i Dalacharn.

Honnai R. M. Lockley fod ar hyd y Landsker, fel y'i gelwir, ystod o dir diffaith o hyd mewn rhannau o'r sir, tir neb rhwng y Cymry a Saeson.

Arferid dweud mai Penycwm, uwchben Newgale, oedd y lle cyntaf y byddech yn clywed yr iaith ar eich ffordd o Hwlffordd i Dyddewi.

Mae'r ffordd honno yn cadw islaw'r ffin ieithyddol nes cyrraedd y môr a throi i'r gogledd yn Newgale.


Y wyrth yw fod Solfach a Thyddewi nad ydynt ond ychydig filltiroedd o'r Landsker wedi cadw mor Gymraeg eu hiaith.

Daeth sefydliadau milwrol i Freudraeth ac, ymhellach i'r gogledd, i Drecwn a Seisnigeiddio pocedi o'r gogledd yn fwy diweddar.

O gofio fel y bu i dde Saesneg y sir reoli llywodraeth leol gyhyd 'dyw parhad yr iaith yn y gogledd yn ddim llai na gwyrth o wytnwch a balchder diwylliannol.

Doedd i'r Gymraeg ddim lle ym mwyafrif ysgolion y de, cynradd nac uwchradd, tan ad-drefnu Llywodraeth Leol yn 1974.

Ar lafar-gwlad y cadwyd yn fyw enwau trefi fel Tyddewi, Abergwaun a Threfdraeth.

Trevine oedd yr enw oedd yn eich croesawu wrth gyrraedd Trefîn enwog oherwydd cerdd Crwys i'r felin ac am yr Archdderwydd a aned yno.

Gwlad y Ddyfedeg
Ond mae mwy i Sir Benfro na'r hollt ieithyddol rhwng Cymro a Sais. Dyma wlad y Ddyfedeg, gwlad y Wês Wês.

Yma mae'r "o" yn troi'n "w" gyda geiriau fel oes, coed, dyfod, oer a ddoe yn troi'n wês, cwed, dwed, wêr a dwe.

Ceir amrywiaethau ar hyn, hefyd. Ar ochr orllewinol y sir fe ddwedir dwe, gan roi'r pwyslais ar yr "w" ac ynganu'r gair bron fel gair deusill.

Ar y ffin gyda Sir Gaerfyrddin rhoddir y pwyslais ar yr "e" gan ei ynganu fel gair unsill.

Ei geiriau ei hun
Mae i'r dafodiaith lwyth o eiriau unigryw.
Un o'r geiriau enwocaf sydd wedi goglais a pheri penbleth i Gymry Cymraeg ymhobman yw "pentigily" sy'n golygu "bob cam" yn yr ystyr o "mynd pentigily", "mynd bob cam".

Y syniad yn ôl un eglurhad yw eich bod chi'n dod "â dau ben at ei gilydd".

Wedyn dyna'r gair am fachgen "rhocyn", fel "yr hogyn" siwr o fod. Ond yn Sir Benfro fe gewch y gair hyfryd ddireidus "rhoces" am ferch a hwnnw'n lluosogi'n hwylus i "rhocesi".

Ond dyw "rocyn" ddim "crwts" yw'r gair a ddefnyddir wedyn.

Geiriau fel "lwêth", wedyn, sef "eilwaith". A tablen. Siawns na fydd tipyn o hwnnw oboitu Tyddewi adeg y 'Steddfod gan mai "Tablen" yw'r gair am gwrw, a "tablenna" yw yfed cwrw.

Ac wedi tablenna gormod mae rhywun yn mynd yn "ffwdlen".

Mae pethau rhyfedd yn digwydd i'r berfau yn Sir Benfro.

Gwrandewch am ffurfiau fel "gesum i" fe gefais i o gwmpas Tyddewi. A'r ffurf sydd bellach wedi treiddio i rannau eraill o'r de "sana i" neu "sa i". Hyn o'i gyfieithu yw "nid wyf i" ac yn tarddu, yn ôl a ddwedodd Idwal Lloyd, o "nid oes a honwyf". Sef dydw i ddim yn honnu ...

Bu gennyf ysgrifenyddes o ardal Sgeifiog un amser. Byddai'n cyhoeddi, ar ôl methu â chael rhywun ar y ffôn - "sano 'na".

Gwyliwch, hefyd, am y "fe" a'r "hi".

Mae'n debygol y cewch eich cyfarch yn y trydydd person. "Shwt mae e heddi, te?" Peidiwch ag edrych o'ch cwmpas am rywun arall na cheisio dyfalu cyflwr iechyd y person hwnnw os digwydd bod rhywun gerllaw.

Atebwch yn hyderus: "Rhyfedd o dda, diolch iddo am ofyn."

Mae'r un rheol yn dal am y ddynes, hefyd. "Shwt ma' hi, 'te?"

Mae berfau Sir Benfro, felly'n mynd fel hyn: Sana i,
sano ti,
sano fe/hi,
sanon ni,
sanoch chi,
sanon nhw
.
Ac yn y gorffennol:
"wena i,
weno fe/hi ac ati".

Wedyn dyna i chi "fe gefais i, fe gest ti ..."

Dyma'r ffurf dderbyniol yn Nhyddewi "gesum i, geso fe, geso hi."

Weithiau, os bydd brodor yn ceisio addasu ei iaith i fod yn ddealladwy i estroniaid, fe glywch ffurfiau fel "sano ti, weno ti" a "geso ti".

Y fannod amhendant
Gwrandewch yn astud, hefyd, am y fannod amhendant nad yw'n bod yng ngweddill Cymru. Mae hi yna yn iaith Dyfed yn ôl neb llai na Waldo Williams.

Os holwch rywun ar faes yr Eisteddfod pan fydd y glaw'n dechrau diwel (sef arllwys) "Oes cot fawr 'da chi?" mae'n bosib y clywch yr ateb "Sdim un got 'da fi". Mae'r un yna, yn ôl Waldo, yn cyfateb i'r fannod amhendant ac yn dangos dylanwad yr Wyddeleg ar iaith Dyfed.

Yn gelwydd i gyd
Byddwch ar eich gwyliadwriaeth am straeon celwydd golau. Mae traddodiad ardderchog o'r rhain, rhan arall o hud a lledrith Dyfed, gyda chymeriadau fel Shemi Wâd o Abergwaun a Daniel Thomas o Drefdraeth a Charles Ladd o Landudoch wedi gadael ar eu holau straeon sy'n fyw o hyd ar lafar gwlad.

Ond a yw'r Ddyfedeg yn haeddu statws uwch na thafodiaith? Gyda'i holl arbenigrwydd oni ddylsai gael statws iaith?

Rwy'n siwr mai dyna oedd gan Waldo mewn golwg yn ei gerdd Fel Hyn y Bu sy'n disgrifio'i helyntion gyda'r Home Guard adeg y rhyfel ac yn ymdrin â thestun mor amserol i'n hoes ni yr Identity Card:

Disgrifiwyd y gwrthrych: ei ddannedd yn brin
A'i dafod iaith Dyfed ac acen Berlin.

Yn ddi-os mae'n haeddu'i galw'n iaith a boed i iaith Dyfed barhau!

Mae Gwyn Griffiths yn olygydd pedair cyfrol o ryddiaith a barddoniaeth yn nhafodiaith Sir Benfro: Wês Wês; Wês Wês Wêth; Wês Wês Shwrne 'To a Wês Wês Pentigily.)





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
O'r Maes
Cadeirio Pawb yn y Pafiliwn

Medal i Angharad

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mawrth

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mercher

Cefndir
Wyddoch chi hyn?

Comedi mewn dosbarth comedi

Yr Archdderwydd newydd

'Lle i enaid gael llonydd'

Araith gyntaf yr Archdderwydd newydd

Heulwen i'r Cymry tramor

'Cadeirydd na fu ei debyg!'

Coron yn deyrnged i fywyd Dewi

Down belows, wês-wês a'r pentigily!

Atgofion Penfro

麻豆社 Cymru yn yr Eisteddfod

Blas Gwyddelig i ddarlithoedd

Cysylltiadau eraill
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002



About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy