麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Eisteddfod 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


O'r Maes
Heulwen er gwaetha'r glaw

Sian Parri Huws yn holi Heulwen Jones Apeliwyd am i Gymry tramor wneud ymdrech arbennig i dynnu Cymru o'r cysgodion ar ôl dychwelyd i'w gwledydd ar ôl ymweld â'r Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos hon.

Wrth annerch cyn Seremoni Croesawu Cymru a'r Byd dywedodd Dirprwy Brif Weinidog y Cynulliad, Mike German AC wrth gynrychiolwyr 18 o wledydd a gymerai ran yn y seremoni:

Mike German yn annerch"Yn y gorffennol, ni chafodd Cymru lawer o sylw gan wledydd eraill y byd. Cafodd ei disgrifio hyd yn oed fel gwlad yn y cysgodion 'y gyfrinach orau yn Ewrop'. Ein nod yw dianc o'r cysgodion i lygaid goleuni".

Apeliodd arnyn nhw i wneud popeth i ganu clodydd Cymry ar ôl dychwelyd i'w gwledydd eu hunain fel bod Cymru yn gallu manteisio ar hynny yn economaidd.

Er gwaetha'r pryderon mai ychydig o ymwelwyr tramor a fyddai'n ymweld â'r Eisteddfod eleni yr oedd 150 o Gymry alltud' ar y llwyfan ar gyfer y seremoni gan gynrychioli gwledydd yn amrywio o Lydaw i Nigeria ac o Ganada i Indonesia.

Ymaflwyr codwm o Lydaw
Yn eu plith yr oedd chwech o ymaflwyr codwm, yn cynnwys un ferch, o Lydaw y difethodd y tywydd eu cynlluniau i ddangos eu doniau ar y maes

Arweinydd y fintai eleni oedd Heulwen Jones o Seland Newydd, a oedd yma gyda'i gwr Percy, Cymro Cymraeg o Fro Dysynni.

Ganwyd Heulwen Jones yn Llandysilio a symudodd i Seland Newydd ym 1954.

Wrth ei chyflwyno dywedodd arweinydd y seremoni R. Alun Evans, er gwaethaf y tywydd garw y tu allan roedd ganddyn nhw Heulwen ar y llwyfan - ym mhresenoldeb Heulwen Jones.

Yn ei hanerchiad soniodd Heulwen Jones am gysylltiad arbennig sydd rhwng Sir Benfro a Seland Newydd.

Gwraidd y cysylltiad hwnnw yw gwr o'r enw John Gronw a aned ym 1766 yn Nhrefdraeth. Ymunodd â'r Llynges Brydeinig pan oedd yn fachgen ac yn ddiweddarach symudodd i New South Wales Awstralia lle daeth yn gapten llong.

Cofio Sir Benfro
Ar un o'i fordeithiau arhosodd yn Seland Newydd ac enwi mannau yno ar ôl lleoedd ym mro ei febyd, Sir Benfro.

Galwodd un lle yn Milford Sound ar ôl Aberdaugleddau (Milford Haven), enwodd fynydd ym mynydd Pembroke, ac ar un o'r afonydd yn yr ardal rhoddodd yr enw Cleddau, neu fel yr eglurodd Heulwen Jones 'Cledau' y mynna'r trigolion lleol ei galw.

Aeth Heulwen Jones wedyn ymlaen i ddiolch am y cyfle i gael dod i faes y brifwyl i dderbyn y croeso.

Diolchodd i T.Elwyn Griffiths, sylfaenydd Undeb Cymru a'r Byd am ddechrau'r ddolen gyswllt bwysig hon rhwng y Cymry oddi cartref â Chymru.

Dolen gyswllt bwysig
Diolchodd hefyd i dîm Cymry a'r Byd. Meddai "Rydym yn gwerthfawrogi eu gwaith, nhw yw'r ddolen gyswllt rhyngddon ni â Chymru fach."

Ar ddiweddodd ei hanerchiad dywedodd "Mae wedi bod yn wythnos fythgofiadwy."

Derbyniodd Heulwen ganmoliaeth gan R.Alun Evans am ei Chymraeg graenus a rhugl er iddi fod yn byw oddi cartref cyhyd.

Meddai: "Mae wedi byw am hanner canrif bron yn Seland Newydd ac mae ei Chymraeg yn llifo fel pwll y môr."

Gorffennodd y seremoni gyda R. Alun Evans yn diolch i'r Cymry o dramor am ddod i'r Brifwyl eleni er gwaetha'r problemau a'r ofnau sydd wedi codi yn sgil y drychineb a ddigwyddodd yn Efrog Newydd ar Fedi'r 11eg.

Dywedodd: " Rwy'n llawn sylweddoli fod pethau wedi newid yn ein byd ni ers yr 11eg o Fedi, diolch am wneud yr ymdrech i ddod i Dyddewi."






Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Cefndir
Wyddoch chi hyn?

Comedi mewn dosbarth comedi

Yr Archdderwydd newydd

'Lle i enaid gael llonydd'

Araith gyntaf yr Archdderwydd newydd

Heulwen i'r Cymry tramor

'Cadeirydd na fu ei debyg!'

Coron yn deyrnged i fywyd Dewi

Down belows, wês-wês a'r pentigily!

Atgofion Penfro

麻豆社 Cymru yn yr Eisteddfod

Blas Gwyddelig i ddarlithoedd

O'r Maes
Cadeirio Pawb yn y Pafiliwn

Medal i Angharad

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mawrth

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mercher

Cysylltiadau eraill
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002



About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy