Adolygiad: Cofio Graham Laker
Brynhawn dydd Mawrth yn theatr y maes llwyfannwyd rhaglen deyrnged i'r diweddar Graham Laker, gwr amryddawn a wnaeth gyfraniad gwerthfawr iawn i'r Theatr Gymraeg.
Bu farw Graham Laker ym mis Tachwedd 2001 pan gollodd ei frwydr ddewr yn erbyn cancr. Yn Theatr y Maes cafwyd cyflwyniad teilwng i ddathlu ei fywyd wrth i actorion a fu'n cyd-weithio ag ef berfformio rhai golygfeydd o'r cynhyrchiadau a gyfarwyddwyd ganddo.
Cyflwynwyd y rhaglen gan Hazel Walford Davies awdur, darlithydd, arbenigwraig ar y ddrama a chyfaill i Graham Laker.
Adroddodd Hazel Walford Davies nifer o hanesion difyr i ni am Graham Laker a thrafod ei syniadau a'i agweddau ef ynglyn â chyflwr y theatr yng Nghymru.
Cofio'r siwt binc
Cawsom ei hanes yn mynd i gyfweliad yn y 70au i Brifysgol Bangor am swydd darlithydd mewn siwt binc denim a heb dei, rhywbeth a ystyriwyd yn herfeiddiol iawn yn y cyfnod.
A do fe gafodd y swydd am fod y panel mae'n amlwg yn gweld fod ganddo dalent rhagorol.
Soniodd wedyn am ddiwedd Theatr Cymru a sefydlu Cwmni Theatr Gwynedd. Dyna'r adeg y penodwyd Graham Laker yn gyfarwyddwr artistig ar y cwmni, swydd y rhoddodd ei holl egni ac ymroddiad i'w chyflawni. Yng ngeiriau Hazel Walford Davies "O'r funud honno ymlaen rhoddodd ei galon a'i egni i'r theatr Gymraeg".
Yn ystod y rhaglen cafwyd cymysgedd o'r digrif a'r dwys oedd yn adlewyrchu pob agwedd o'i yrfa artistig. Yn perfformio roedd Arwel Gruffydd, Wyn Bowen Harries, Cian Marc a Christine Prichard.
Agorodd y rhaglen gyda pherfformiad gan Arwel Gruffydd o olygfa o'r ddrama Amadeus, cynhyrchiad olaf Graham a'r un a roddodd y boddhad mwyaf iddo fel cyfarwyddwr.
A do cafwyd perfformiad gwych gan Arwel Gruffydd yn union fel a gafwyd pan berfformiwyd Amadeus yn Theatr Gwynedd ddwy flynedd yn ôl.
Hefyd yn ystod y rhaglen perfformiwyd golygfeydd o'r Twr, r Aduniad Ddoe yn Ôl a Ffrwd Ceinwen
Adlewyrchu sawl cyfnod
Dyma ddewis da oedd yn rhoi amrywiaeth o ran cynnwys ac yn adlewyrchu sawl cyfnod yng ngyrfa Graham Laker. Cafwyd perfformiadau ysgytwol gan yr actorion wrth iddyn nhw ein tywys trwy sawl cyfnod yn ei yrfa.
Mwynheais yn arbennig y detholiad o Yr Aduniad a Ddoe yn Ôl. Mae Yr Aduniad yn darlunio'r berthynas rhwng gwr a gwraig a chafwyd perfformiad rhagorol gan Christine Prichard a Cian Marc wrth iddyn nhw ffraeo fel ci a chath.
Mae Ddoe yn Ôl yn ddrama rymus ac yn ôl Hazel Walford Davies dyma un o hoff ddramâu Graham Laker.
Dewiswyd golygfa ysgytwol o'r ddrama lle mae'r gwr (Arwel Gruffydd) yn egluro wrth ei fam (Christine Prichard) fod salwch meddyliol arno a fydd yn y pendraw yn effeithio arno'n gorfforol mewn modd mor greulon fel nad yw'n dymuno byw mwyach.
Mae am roi terfyn ar ei fywyd ac am i'w fam gyflawni'r weithred. Roedd perfformiad y ddau actor yma'n arbennig ac yn emosiynol tu hwnt.
I gloi'r deyrnged perfformiwyd detholiad o'r Y Werin Wydr (Glass Menagerie ). Daeth y detholiad hwnnw i ben gyda geiriau'r prif gymeriad "Diffodd dy gannwyll Laura a da boch" diweddglo addas iawn i'r rhaglen hon wrth i gyfeillion a chyd-weithwyr Graham a phawb a gafodd y fraint i ddod i gysylltiad ag o ffarwelio â chyfaill a gwr amryddawn.
Lansio Apêl Cofio Graham
Yn dilyn y cyflwyniad hwn lansiwyd Apêl Cofio Graham ym Mhabell y Theatrau. Bydd yr arian fydd yn cael ei gasglu o ganlyniad i'r apêl, ymhen blwyddyn, yn mynd i sefydlu Cronfa Goffa Graham Laker.
Bydd y gronfa yn gwobrwyo'n flynyddol unigolyn sydd wedi dangos addewid mewn unrhyw faes o fewn byd y theatr Gymraeg.
Mae Pwyllgor Cofio Graham yn gwahodd cyfraniadau ariannol oddi wrth gyfeillion, teulu a chyn-gydweithwyr Graham Laker, oddi wrth unigolion, sefydliadau a chwmnïau sy'n ymwneud â drama yng Nghymru, ac oddi wrth unrhyw un sy'n dymuno talu teyrnged i un a roddodd gymaint o'i fywyd a'i egni i fyd y theatr.
Mae'r pwyllgor yn gobeithio y bydd hyn wedyn yn rhoi coffâd teilwng iddo a rhoi hwb i gyfarwyddwyr theatr neu ddarpar gyfarwyddwyr yng Nghymru.
Adolygiad gan Catrin Jones