麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Eisteddfod 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


O'r Maes
Steddfod Gwilym Owen - dydd Iau

Gwilym OwenDiwrnod y dagrau ac unwaith eto yng Nghymru annwyl ydi dydd Iau yn y Brifwyl bellach.

Diwrnod croesawu y Cymry ar ddisberod.

A thybed ai leni fydd y tro olaf inni weld y seremoni sentimental hon yn ei ffurf bresennol ar lwyfan y Steddfod?

Mae un o adar drycin y Cyngor o tua Llangwm 'na yn galw am addasu'r Sioe. Dyn dewr iawn ddeudwn i.

Dewinol
Ac o sôn am dramorwyr - fe ymddengys fod 'na lanc go ddychmygus wedi cyfarfod Robin Llyn yr Archdderwydd yn un o westai'r cylch a bod yr Archdderwydd wedi esbonio ei swyddogaeth eisteddfodol iddo fo.

Ychydig yn ddiweddarach daeth y llanc wyneb yn wyneb ag un o aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol ac medda fo wrth hwnnw,"I've just met your Grand Wizard.

A dyna ni'n ôl efo Klu Klux Khan eisteddfodol - oll yn eu gynau gwynion.

Ffrindiau annwl
Cwestiwn bach rwan. Be ddigwyddodd i'r syniad o sefydlu mudiad newydd o'r enw Ffrindiau'r Steddfod. Faint o ffrindiau sy gan y Brifwyl. Ydi o'n wir nad oes gan y swyddogion y syniad lleiaf faint sydd yna?

Ac yn ola - fydda fo ddim yn ddoethach cyfadde mai methiant llwyr fu'r freuddwyd ac mai gwell fyddai ei gladdu a chael gwared o'r dryswch.

Wedi drysu
Ac mae'r gair yna yn dod a fi at Elwa - y corff addysgol enfawr sydd a ffortiwn o gyllideb ond i wneud beth does neb yn sicr iawn.

Ac o flaen eu stondin eisteddfodol mae yna hysbyseb yn gwahodd pobl i gerdded drwy eu "Drysfa".

Gair ardderchog i ddisgrifio Elwa ei hun ddeudwn i.

Meddwi ar lyfr
Dwi am roi gwobr fach rwan i Robat Gruffudd o'r Lolfa a benderfynodd mai'r unig ffordd o werthu un o'i gyfrolau newydd oedd cynnig potel o gwrw i bob prynwr. A phan gafodd gerydd gan Gyfarwyddwr y Steddfod fe ymddiheurodd a deud ei fod o'n credu mai gwerthu alcohol ac nid rhannu alcohol oedd wedi ei wahardd.

Iechyd da Robat a derbyniwch wobr diniweidrwydd clyfar.

Hapusrwydd
Y dyn hapusa ydw i wedi weld ar y maes yma eleni yn sicr ydi Karl Davies cyn Brif Weithredwr The Party of Wales sy bellach yn bugeilio Prifathrawon Cymru fach.

Wyddoch chi be, medda fo, dwi'n cysgu'r nos am y tro cynta ers blynyddoedd. Dyn yn amlwg wedi cael gwared o faich trwm iawn.

Neges ddigidol
Un o'r criw bychan a aeth i wrando ar ddarlith Euryn Ogwen i Gylch yr Iaith ddoe oedd Ned Thomas a phan oedd y darlithydd ar ganol ei druth dechnegol ddigidol dyma dinc ffôn mudol.

A'r dywededig Ned yn rhuthro allan. A rhai yn holi tybed ai Rupert Murdoch oedd yn galw i gael gwybod pryd yn union y gwelir y rhifyn cynta o'r papur dyddiol Cymraeg. Wedi'r cyfan dim ond Ned sydd â'r wybodaeth honno.

Iechyd annwl
Gwobr arall rwan am weld ei gyfle i'r Dr Dai Lloyd - llefarydd Plaid Cymru ar faterion iechyd. Y fo oedd un o'r rhai cyntaf i arwyddo deiseb yn galw am gael gwared o stondin gwerthu sigarets ar y maes yma. Ac wrth gwrs gwneud yn sicr fod y Western Mail yn clywed am ei wrhydri. Neis wan Dai.

Gwrthod y lliw
A gair o gydymdeimlad i orffen efo'r Athro Hywel Teifi Edwards. Nid yn aml y mae o'n methu cael ei faen i'r wal. Ond mae Bwrdd yr Orsedd wedi gwrthod ei gynnig lliwgar i newid trefn anrhydeddau y Cylch Cyfrin.

Rhoi cobanau glas a gwyrdd bob yn ail flwyddyn oedd bwriad y cynnig - ond no we hose meddai'r mwyafrif. Chlywais i ddim beth oedd ymateb yr Athro.





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Cefndir
Wyddoch chi hyn?

Comedi mewn dosbarth comedi

Yr Archdderwydd newydd

'Lle i enaid gael llonydd'

Araith gyntaf yr Archdderwydd newydd

Heulwen i'r Cymry tramor

'Cadeirydd na fu ei debyg!'

Coron yn deyrnged i fywyd Dewi

Down belows, wês-wês a'r pentigily!

Atgofion Penfro

麻豆社 Cymru yn yr Eisteddfod

Blas Gwyddelig i ddarlithoedd

O'r Maes
Cadeirio Pawb yn y Pafiliwn

Medal i Angharad

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mawrth

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mercher

Cysylltiadau eraill
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002



About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy