麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Eisteddfod 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


O'r Maes
Adolygiad: Parti foam Maes B

Ian Cottrellgan Sioned Gwen Davies

Yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych y llynedd cafodd Maes B flas ar barti foam sydd fel arfer i'w weld ar Ynys wyllt Ibiza.


Gan fod y parti foam wedi bod mor llwyddiannus y llynedd cynhaliwyd un eto eleni a fi gafodd y pleser o fod yng nghanol y foam drwy'r nos.

Tra roedd y foam yn llifo roedd tri DJ poblogaidd yn diddannu'r dorf gyda'u cerddoriaeth ddawns.

Y cyntaf i chwarae oedd Ian Cottrell sydd i'w weld fel arfer ar raglenni S4C fel 4 Trac a Bandit.

Yn Ninbych y llynedd roedd yn chwarae ar y nos Wener yn gig olaf Diffiniad ond eleni roedd ar ben ei hun gan chwarae cerddoriaeth dda iawn ac yn micsio yn llwyddiannus - ond nid oedd yn cael llawer o gefnogaeth gan y dorf.

Dwi'n amau mai'r prif reswm am hynny oedd mai ef oedd y cyntaf i chwarae ac nad oedd y foam wedi dod tan yn hwyrach yn y noson ac efallai nad oedd digon o alcohol yn llifo ar ddechrau'r noson!

Ond ar y cyfan perfformiad da iawn.

Parti FoamMynd yn wyllt
Erbyn tua unarddeg o'r gloch dechreuodd y foam lifo o'r nenfwd a phawb yn mynd yn wyllt wrth ddawnsio yn y foam gan wlychu lot!

Dj Dafis oedd yr ail i chwarae ac erbyn hyn roedd pawb yn barod i ddawnsio a mwynhau'r gerddoriaeth ddawns.

Rhoddodd Dj Dafis berfformiad gwych gan droelli llawer o gerddoriaeth ei hun gydag ambell gân boblogaidd o'r sin ddawns Saesneg oedd yn ychwanegu at fwynhad y dorf.

Prif Dj y noson oedd yr enwog Jean Jaques Smoothie sydd yn dod o Gymru ac wedi cael llwyddiant mawr yn siartiau gyda'i gân 2 People.

Cafodd Jean Jaques Smoothie groeso mawr gan y dorf ond ar ôl hynny ni chymerodd y dorf lawer o sylw o'r gerddoriaeth gan fod pawb yn cael cymaint o hwyl yng nghanol y foam.

Ar y llaw arall roedd pawb yn dawnsio gyda digon o egni i gerddoriaeth Jean Jaques Smoothie hyd oriau mân y bore.

Roedd y parti foam yn llwyddiant mawr eto eleni, ac yn noson llawn hwyl gyda cerddoriaeth o'r safon uchaf gyda Dj's yn troelli yn ardderchog.

Bechod wir nad oedd llawer mwy o bobl yno yng nghanol y foam ac yn cefnogi Ian Cottrell, Dj Dafis a Jean Jaques Smoothie.

Efallai y flwyddyn nesaf y dylai Maes B feddwl am gynnal y parti foam yn hwyrach yn ystod yr wythnos gan fod llawer o bobl yn cyrraedd Maes B yn ystod y tri diwrnod olaf.

Ond cofiwch, os ydych chi'n mynd i unrhyw barti foam, mewn eisteddfod neu yn Ibiza, peidiwch a gwisgo eich dillad gorau a drutaf, oherwydd rydych yn gwlychu o'ch corun i'ch sowdl.





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Cefndir
Wyddoch chi hyn?

Comedi mewn dosbarth comedi

Yr Archdderwydd newydd

'Lle i enaid gael llonydd'

Araith gyntaf yr Archdderwydd newydd

Heulwen i'r Cymry tramor

'Cadeirydd na fu ei debyg!'

Coron yn deyrnged i fywyd Dewi

Down belows, wês-wês a'r pentigily!

Atgofion Penfro

麻豆社 Cymru yn yr Eisteddfod

Blas Gwyddelig i ddarlithoedd

O'r Maes
Cadeirio Pawb yn y Pafiliwn

Medal i Angharad

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mawrth

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mercher

Cysylltiadau eraill
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002



About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy