麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Eisteddfod 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


O'r Maes
Adolygiad: Mwynhau sioe y plant

Golygfa o'r sioeNos Sadwrn cyntaf wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhyddewi roedd y pafiliwn yn orlawn ar gyfer sioe plant ysgolion cynradd y fro.

Doedd hynny ddim yn syndod gan fod sioe'r plant yn denu torfeydd bob blwyddyn ac eleni fel arfer roedd pawb yn edrych ymlaen am ddigon o ganu a hwyl.

Daw Dydd oedd testun y sioe eleni a Morys Rhys oedd yr awdur. Mae'r teitl yn dod o eiriau Waldo:

'Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain
Daw dydd ni bydd mwy y rhai mawr'

Stori am Dewi Sant
A dyma'r thema oedd yn gwau drwy'r sioe a hynny drwy gyfrwng stori am Dewi Sant. Yr hyn sy'n digwydd yw bod Peulin, athro Dewi sydd hefyd yn ddall, yn helpu Dewi a'i gyfeillion i weld sut y gall y bach oresgyn y mawr a sut y gallwn ninnau fod yn llawen.

Will Turner yn chwarae rhan Peulin, athro Dewi SantAr ddechrau'r ddrama mae Peulin yn gosod tri chwestiwn i Dewi a'i ffrindiau ac y mae'n rhaid iddyn nhw ddarganfod yr atebion i'r cwestiynau hyn.

Ond nid sioe wedi ei gosod yng nghyfnod Dewi Sant sef y chweched ganrif yw hon, ond yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae Dewi a'i ffrindiau yn chwilio am yr atebion yn Sir Benfro'r ganrif hon.

Mae hyn yn creu tipyn o ddifyrrwch wrth i Dewi a'i ffrindiau geisio deall ein byd modern ni a dod i ddysgu am dechnoleg.

Mae nifer o olygfeydd doniol ond y rhai sy'n aros yn y cof yn bennaf yw'r olygfa o'r Cynulliad Cenedlaethol a'r olygfa lle mae'r criw teledu yn ffilmio Cefn Gwlad, neu Cefn Gwlyb fel y'i gelwir yma a Deryn, ffrind Dewi, yn credu mai ceffyl yw'r camera!

Tipyn o gymeriad
A wir mae Deryn yn dipyn o gymeriad, ac yn ysgafnhau'r sioe gan wneud i'r gynulleidfa chwerthin ar sawl achlysur yn arbennig wrth iddo ddweud yn barhaus "sai'n credu hyn", wrth iddo ef a'i gyfeillion weld rhyfeddodau'r oes fodern. Mae'n gymeriad direidus, llawn bwrlwm.

Mae Dewi a'i ffrindiau yn mynd i nifer o leoedd i chwilio am yr atebion fel seremoni'r maer Mawredd Mawr, siop ddillad, Eisteddfod Maenclochog, stadiwm y mileniwm, stiwdio hysbysebion, ysgol gynradd Llanaber a'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae hyn i gyd yn dipyn o agoriad llygad i Dewi a'i ffrindiau ac yn dangos mor fas yw ein bywydau ni heddiw ac mor ddifater yr ydym.

Mae'r plant yn cyfleu hyn i gyd i ni drwy gyfrwng deialog, dawns a chân. Roedd y gerddoriaeth yn wych a'r plant yn cydsymud yn dda. Roedd yma unawdwyr da hefyd, lleisiau y byddwn yn eu clywed eto ar lwyfan yr eisteddfod yn y dyfodol rwy'n siwr.

Deuawd yn aros yn y cof
Un o'r caneuon sy'n aros yn y cof yw'r ddeuawd rhwng Dewi a Cadi, merch y mae'n syrthio mewn cariad â hi. Fe ganodd y ddau y gân serch yn arbennig. Roedd lleisiau'r ddau yn aeddfed ac yn asio'n berffaith. Cawsant gymeradwyaeth wresog gan y gynulleidfa.

Yn ychwanegol at hyn i gyd fe ddefnyddiwyd dwy sgrîn yn ystod y perfformiad er mwyn dehongli'r stori. Roedd hyn yn gweithio'n dda gan ein bod yn cael gweld golygfeydd o'r ardal yn ystod y sioe.

Dyw hi ddim yn syndod fod cynhyrchwyr y sioe am arddangos y golygfeydd i ni oherwydd yn sicr mae gan yr ardal hon olygfeydd i ymfalchïo ynddyn nhw. Roedd gweld y traethau bendigedig ar y sgrîn yn cyfoethogi'r profiad gweledol ac yn creu naws ar ddechrau'r perfformiad wrth i'r plant ganu am eu hardal.

Ond yn ystod y rhan fwyaf o'r sioe roedd y sgrîn yn aros ar lun llonydd o gadeirlan Tyddewi. Roedd hyn yn galluogi i ni ystyried o ddifri sut oedd bywyd yng nghyfnod Dewi.

Ond defnyddiwyd y ddwy sgrîn i bwrpas arall hefyd. Wrth i Dewi a'i ffrindiau chwilio am yr atebion i gwestiynau Peulin ymddangosai pobol ar y sgrîn yn adrodd rhywbeth oedd i fod yn gymorth iddyn nhw yn eu hymchwil.

Colli rhan bwysig o'r sioe
Ond yn anffodus roedd hi'n amhosib clywed yr hyn yr oedd ganddyn nhw i'w ddweud gan fod y gerddoriaeth mor uchel. Roeddwn i'n teimlo fy mod i'n colli rhan bwysig o'r sioe yma gan fod hyn yn amlwg yn rhan bwysig o'r stori.

Ond beirniadaeth fechan yw hon ar sioe oedd yn werth i'w gweld. Roedd yn berfformiad graenus iawn gydag ôl ymarfer dygn.

Roedd yr holl elfennau yn cydblethu gyda'i gilydd yn berffaith i greu perfformiad cofiadwy - y gerddoriaeth, y coreograffi a'r actio. A'r stori ei hun wedyn yn cyfleu neges bwysig i ni i gyd a hynny heb bregeth ond drwy adloniant bywiog.

Ymateb gwych
O ymateb y gynulleidfa ar ddiwedd y perfformiad rydw i'n sicr fod y sioe wedi apelio at bawb o bob oed. Roedd pawb ar eu traed yn cymeradwyo yn ystod y gân olaf sy'n arwydd eu bod wedi mwynhau.

Mae'r diolch am hyn i bawb fu'n ymwneud â'r sioe yn gynhyrchwyr ac athrawon gan fod yma ôl gwaith caled iawn. Yn fwy na dim mae'n rhaid canmol y plant. Mae'n anhygoel sut y gall plant mor ifanc berfformio mor raenus.

Dyma ddechrau da i wythnos o adloniant yn Nhyddewi, a gobeithio y bydd y pafiliwn yr un mor llawn ac y bydd yr ymateb cystal i'r perfformiadau eraill yn ystod yr wythnos.


Adolygiad gan Catrin Jones







Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Cefndir
Wyddoch chi hyn?

Comedi mewn dosbarth comedi

Yr Archdderwydd newydd

'Lle i enaid gael llonydd'

Araith gyntaf yr Archdderwydd newydd

Heulwen i'r Cymry tramor

'Cadeirydd na fu ei debyg!'

Coron yn deyrnged i fywyd Dewi

Down belows, wês-wês a'r pentigily!

Atgofion Penfro

麻豆社 Cymru yn yr Eisteddfod

Blas Gwyddelig i ddarlithoedd

O'r Maes
Cadeirio Pawb yn y Pafiliwn

Medal i Angharad

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mawrth

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mercher

Cysylltiadau eraill
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002



About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy