Lluniau o ŵyl yr Eisteddfod Genedlaethol yn nhref Glynebwy yn 1958.
Ymwelodd Paul Robeson, y canwr a'r actifydd gwleidyddol, â Chymanfa Ganu'r Eisteddfod fel gŵr gwadd i Aneurin Bevan, a oedd ar y pryd yn aelod seneddol lleol.
Daeth Robeson i Gymru am y tro cyntaf yn 1930 ar ôl cwrdd â glöwyr diwaith yn Llundain a theimlo cysylltiad dwfn â'u brwydr am gyfiawnder cymdeithasol yng nghymunedau De Cymru.
Syrthiodd Cymru mewn cariad dyfnach gyda Robeson pan ymddangosodd yn y ffilm Proud Valley gyda Rachel Thomas yn 1939.
Ymddangosodd yn Eisteddfod 1958 wedi i lywodraeth yr Unol Daleithiau ei wahardd rhag defnyddio ei basbort am wyth mlynedd oherwydd ei ddaliadau gwleidyddol.
Enillydd y Gadair oedd am ei awdl 'Caerllion-ar-Wysg'. Aeth y bardd a'r awdur ymlaen i ysgrifennu nifer o lyfrau i blant, gan gynnwys Trysor Plas y Wernen a Tân ar y Comin.
oedd enillydd y Goron, am ei gasgliad o gerddi 'Cymod'.
Siaradodd a yn yr Eisteddfod hon hefyd
Lluniau 1 a 6 drwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Straeon o'r Maes
Edrych nôl
Ailfyw holl straeon a chyfweliadau'r wythnos o faes y Brifwyl yng Nglynebwy.