Hanes Gorsedd y Beirdd ac arwyddocad y gwisgoedd.
Cymdeithas o feirdd, awduron, cerddorion, artistiaid ac eraill sydd wedi gwneud cyfraniad i Gymru, yr iaith Gymraeg a'i diwylliant yw Gorsedd y Beirdd (neu Gorsedd Beirdd Ynys Prydain.)
Fe'u gwelir yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol wedi eu gwisgo mewn gwyn, gwyrdd a glas yn cael eu harwain gan yr Archdderwydd. Mae'r lliwiau'n dynodi'r gwahanol raddau o fewn yr Orsedd ac fel ag y mae tri phaladr yn Arwyddnod yr Orsedd, mae yna hefyd dair urdd o fewn yr Orsedd:
- Urdd Ofydd - gwisg werdd - sy'n cynnwys Bardd Ofydd, Cerdd Ofydd a Llên Ofydd. Derbynnir i'r urdd hon rai sydd wedi llwyddo yn nau arholiad cyntaf yr Orsedd neu rai a dderbynnir er Anrhydedd.
- Urdd Bardd, Ieithydd, Cerddor neu Lenor - gwisg las - ar gyfer rhai a lwyddodd yn nhrydydd arholiad yr Orsedd. Gall graddedigion a lwyddodd yn y Gymraeg a Llenyddiaeth Gymraeg, neu Gerddoriaeth wneud cais i'w derbyn i'r urdd hon.
- Urdd Derwydd - gwisg wen. Cyfyngir hon i feirdd, llenorion, cerddorion, ysgolheigion, gwyddonwyr neu gelfyddydwyr, naill ai o blith rhai sydd yn aelodau o'r Orsedd yn barod neu o blith y rhai y tu allan iddi, am waith o safon genedlaethol gydnabyddedig.
Mae rhai a enillodd Gadair neu Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael eu hadnabod fel Prifeirdd ac maent yn llawryf am eu penwisg. Prif lenorion yw enillwyr Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol ac etholir yr Archdderwydd o blith y rhain a'r Prifeirdd. Rhaid i bob ymgeisydd am urdd yn yr Orsedd fedru Cymraeg.
Ymhlith aelodau'r Orsedd mae Bryn Terfel, Ioan Gruffudd a'r cyn chwaraewr rygbi dros Gymru, Gareth Edwards. Yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2008, Urddwyd yr actor Matthew Rhys, y gantores Heather Jones a'r Arglwydd Dafydd Elis - Thomas, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol. Yn 2009, derbyniwyd Connie Fisher a'r athletwraig Tanni Grey-Thompson, ymhlith eraill, i'r Orsedd.
Yr Archdderwydd
Yr Archdderwydd yw Pennaeth yr Orsedd. Caiff ei ethol am gyfnod o dair blynedd ac mae'n gyfrifol am arwain seremonïau'r Orsedd yn ystod wythnos yr Eisteddfod - sef ³§±ð°ù±ð³¾´Ç²Ôï²¹³Ü'r Coroni, y Fedal Ryddiaith a'r Cadeirio.
Cychwyn yr Orsedd
Ar Fryn y Briallu (Primrose Hill), Llundain, y sefydlwyd yr orsedd i gychwyn yn 1792 gan ŵr o'r enw Iolo Morganwg a oedd yn awyddus i roi gwybod i'r byd bod na gysylltiadau uniongyrchol rhwng y Cymry a'r diwylliant Celtaidd.
Ar ddechrau'r 19eg ganrif y cysylltwyd Gorsedd y Beirdd yn swyddogol â'r Eisteddfod a hynny mewn Eisteddfod yng Ngwesty'r Llwyn Iorwg yng Nghaerfyrddin. Mae'r cysylltiad yn parhau hyd heddiw.
Cylch yr Orsedd
Gwelir Cylch yr Orsedd, sef cylch o feini, mewn nifer o drefi a phentrefi ar hyd a lled Cymru, wedi eu gadael yno i nodi i'r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â'r dref neu'r ardal honno. Erbyn hyn, meini ffug sy'n cael eu cludo o Eisteddfod i Eisteddfod yn flynyddol.