Â鶹Éç

Dysgwr y Flwyddyn - Y Bala '97

Paul Elliott

Atgofion Y Bala '97 / Bala '97 memories

Y tro diwethaf i'r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â'r Bala, yn 1997, Paul Elliott o Gaerdydd oedd enillydd teitl Dysgwr y Flwyddyn.

Isod, mae Paul yn hel ei feddyliau am y cyfnod.

The last time the National Eisteddfod visited Bala, in 1997, Paul Elliott from Cardiff won the title of Welsh Learner of the Year.

Here, Paul answers questions about his memories of the time.

If you are learning Welsh, there's a glossary of words at the end of the article, or you can click on the Vocab button (top right) for further help with the language. If you want to read this interview in English, click here.

Pam wnaethoch chi ymgeisio am y teitl?

Roeddwn i wedi bod wrthi'n dysgu Cymraeg yn y dosbarth nos yng Nghaerdydd am sbel pan awgrymodd Helen Prosser (y tiwtor) i fi fynd am y gystadleuaeth. "Pam lai?" meddyliais i, a dyma fi'n ffeindio fy hun ar y llwyfan yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar ôl cwpl o rowndiau lleol!

Beth yw eich atgofion o'r amser yn Y Bala?

Roedd y profiad yn reit od a dweud y gwir - aros gyda ffrindiau mewn pabell ar Faes B yn y nos, ac, wrth i'r bore gyrraedd, yn trio ymddangos yn smart o flaen pobol "swyddogol" ac o flaen camerâu hyd yn oed!

Faint mor bwysig mae Cymraeg wedi bod i chi?

Y wobr fwyaf pwysig i fi wrth gwrs oedd medru'r iaith ei hun, a dw i'n falch i ddweud bod gen i gylch o ffrindiau newydd trwy gyfrwng y Gymraeg, a fod mod i'n defnyddio Cymraeg bob dydd o hyd - yn y gwaith, a gyda ffrindiau yn y dafarn, ac ym mywyd beunyddiol.

Sut mae ennill y teitl wedi effeithio arno chi ers hynny?

Dw i'n cofio dechrau fy ngwers Gymraeg gyntaf ac roedd rhaid i bawb ateb y cwestiwn pam roedden ni'n awyddus i ddysgu'r iaith. Cafodd y tiwtor atebion teilwng fel "oherwydd fy mhlant sy'n mynd i ysgol Gymraeg" neu "defnyddiol yn y gwaith" neu "achos bod fy ngwraig/gŵr yn siarad Cymraeg fel mamiaith".

Ond i fi doedd dim rheswm oni bai am "jyst achos mod i eisiau"; roedd hudoliaeth gyda fi am yr iaith roeddwn i'n gweld a chlywed o'm cwmpas ond, ar y pryd, heb ei deall. Ambell waith y rheswm gorau am wneud rhywbeth yw jyst oherwydd eich bod eisiau darganfod mwy.

A fyddwch chi'n dychwelyd i'r Bala eleni?

Eleni dw i'n edrych ymlaen at ddychwelyd i'r Eisteddfod yn y Bala, yn gweithio i'r Â鶹Éç mewn pabell ryngweithiol ble bydd cyfle i bawb gwrdd â sêr Â鶹Éç Cymru, darllen y newyddion, cyflwyno rhagolygon y tywydd, ymweld â setiau gwahanol y Â鶹Éç, a mwy.

Bydd hyn yn gyfle reit dda i fi gwrdd â llawer o bobol newydd sy'n siarad Cymraeg, ac wrth gwrs mae'n her i gofio cymaint o dermau technegol sydd yn y byd darlledu a chyfrifiadureg.

Diolch yn fawr i Paul Elliott, a phob hwyl yn Y Bala.


Geirfa / Glossary

  • ymgeisio - to try
  • am sbel - for a while
  • awgrymodd - suggested
  • pabell - tent
  • ymddangos - appear
  • swyddogol - official
  • (g)wobr - prize
  • medru - ability
  • beunyddiol - daily
  • awyddus - keen/eager
  • teilwng - worthy
  • hudoliaeth - enchantment / fascination
  • dychwelyd - return
  • r(h)yngweithiol - interactive
  • rhagolygon - forecast
  • darlledu - broadcast
  • c(h)yfrifiadureg - computer science

Canlyniadau

Côr Cynta i'r Felin

Rhestr lawn

Canlyniadau'r wythnos yn llawn.

C2

Cyfweliad gyda Gwyneth Glyn

Yn y Steddfod

Lluniau a chlipiau ecscliwsif o gigs yr Eisteddfod.

Â鶹Éç Lleol

Cerflun yn nhref Y Bala

Y Bala

Adnabod tref Y Bala ar wefan Â鶹Éç Lleol i'r gogledd orllewin.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.