Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur y Cwm
Poteli gwin Cenadwri mewn potel
Mawrth 2004
Miwsig i'r glust i lawer yw sŵn tynnu corcyn o wddf potel o win. 'Does yr un sŵn arall i'w gymharu â'r sŵn o dynnu corcyn dros wyneb gwydr ac yna chael mwynhau'r arogl a'r persawr yn dianc o'r botel.
Tu ôl i ramant agor potel o win, mae yna genadwri llawer mwy difrifol y dyddiau yma.

Mae cynhyrchwyr gwin y dyddiau yma dan bwysau mawr i gynhyrchu gwin o'r safon uchaf. O'r herwydd credai rhai bod y corcyn yng ngwddf y botel yn amharu ar flas ac ansawdd y gwin (Pwy all anghofio yr olygfa anfarwol honno yn Fawlty Towers!) Mae cynhyrchwyr felly wedi mynd ati i roi corc plastig neu dopiau y gellir eu hail osod ar y poteli. Snobyddiaeth neu chwaeth yr yfwyr gwin yw hyn i rai.

O ganlyniad defnyddio plastig neu dopiau metel ar y poteli mae'r diwydiant corc dan fygythiad. Mae'n siŵr bod rhai ohonoch sydd yn ymweld â Sbaen a De Ffrainc yn ystod yr haf yn gyfarwydd â gweld corc yn tyfu mewn coedwigoedd sydd yn cael eu rheoli a'u meithrin.

Un ardal o'r fath yw Andalucia yn ne orllewin Sbaen ac oddi yma gellir gweld Môr y Canoldir a Gibraltar. Yma hefyd y gellir clywed a gweld godidowgrwydd byd natur, mae'r coedwigoedd yma yn cynnal ecoleg bwysig - y naill yn ddibynnol ar y llall. Mae'r safleoedd yma yn bwysig ar gyfer amffibiaid, pryfetach, trychfilod ac adar.

Un o'r adar unigryw sydd yn byw yn ardal y coedwigoedd yma yw Eryr Imperialaidd Sbaen (Spanish Imperial Eagle). Hyd y gwyddom dim ond 130 o barau o'r aderyn yma sydd mewn bodolaeth.

Ar un adeg roedd yn aderyn cyffredin ym Mhortiwgal ond darfu'r aderyn yn y wlad honno. Mae'r ardal yn bwysig hefyd fel man gorffwys ar gyfer adar sydd yn mudo o ogledd yr Affrig yma gellir gweld sawl math o deloriaid (warblers) a chigyddion (shrikes). Yma hefyd y gellir gweld adar ysglyfaethus yn mudo gan ddefnyddio'r aer twym i'w codi yn uchel i'r awyr, adar megis Ffwlturiaid (Vultures) a'r Barcud Du (Black Kite).

Y pryder yw, y byddai'r gostyngiad yn y defnydd o wneir o gorc yn effeithio ar ecoleg yr ardaloedd yma a hynny yn ei dro yn effeithio ar y bywyd gwyllt.

Yr hyn yw corc mewn gwirionedd, yw rhisgl y Dderwen Gorc. Gellir tynnu'r rhisgl i ffwrdd yn stribedi hir a'i ddefnyddio i sawl pwrpas. Os tynnir rhisgl oddi ar goed eraill yna fe fydd y coed hynny farw. Yn achos y dderwen gorc gellir cynaeafu'r rhisgyl sawl tro ac fe fydd y rhisgl yn ail dyfu a'r goeden yn parhau i fyw. Mae rhai o'r coed yma yn hynafol iawn ac mae siâp y coed yn ychwanegu at y tirlun gan greu ardaloedd unigryw. Mae'n bwysig felly diogelu nid yn unig y traddodiad o gynaeafu'r corc ond hefyd diogelu'r ecoleg sydd yn mynd law yn llaw.

Wedi'r cyfan be all fod yn fwy naturiol na chorcyn yng ngwddf potel. Mae'n ddeunydd hollol esthetig llawer gwell na phlastig! Wrth gwrs mae rhai am roi'r ddadl wyddonol ac economegol o blaid defnyddio plastig ond gwrandewch yn astud y tro nesaf byddwch yn agor potel o win a corc yn ei gwddf. Go brin y gellir atgynhyrchu y sŵn unigryw, mwy nag y gellir atgynhyrchu sŵn a chân yr adar a'r creaduriaid yn y coedwigoedd corc. Tro nesaf byddwch yn prynu potelaid o win cofiwch bod cenadwri bwysig yn y botel.

Dewi Lewis


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý