Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Byd y theatr Cwmni sgrifennu newydd yn llwyfannu 'Pishyn Chwech'.
Llwyfannwyd chwe drama fer gyfoes gan chwe awdur newydd yn Neuadd Llanofer, Treganna, Caerdydd am 7:30yh ar nos Iau a nos Wener 10 ac 11 Chwefror 2005.
  • Cliciwch yma i ddarllen adolygiad o'r dramâu.

    Cefndir y Cwmni
    Cyfarfu'r awduron wrth ddilyn cwrs Sgriptio gyda'r hwyr ym Mhrifysgol Caerdydd dan arweiniad Dewi W. Williams yn ystod 2003 ac yn sgil hynny, sefydlwyd Cwmni Inc. Mae'r aelodau yn gweithio o ddydd i ddydd mewn amrywiol swyddi, o gyfieithwyr, cyhoeddwr a chynhyrchwyr trêls.

    Pishyn 6 oedd cynhyrchiad cyntaf y cwmni. Dewi W. Willims a olygodd y sgriptiau, a chynghorodd yr actores a'r gyfarwyddwraig nodedig Valmai Jones y cwmni. Mae'r cwmni newydd yn falch i ddweud fod nifer o bobl profiadol eraill wedi eu cynorthwyo gyda'r cynhyrchiad.

    Gan mai cwmni newydd ei sefydlu ydy Cwmni Inc., mae'r criw wedi gofyn am gymorth caredig sawl un a diolch i'r haelioni hwnnw i'r perfformiadau hyn gael eu llwyfannu.

    Roedd enwogion o fyd y ddrama yn actio yn y dramâu, gan gynnwys Olwen Medi, Siwan Bowen Davies, Valmai Jones, Elin Wmffras, Dafydd Emyr, Sian Rivers, Meilir Sion, Dyfan Dwyfor, Catrin Wyn Jones, Jâms Thomas a Rhiannydd Wynne.

    Roedd Sara Lloyd, Morgan Hopkins a Kristy Jones ymysg y cyfarwyddwyr a roedd technegwyr proffesiynol yn helpu hefyd.

    Testunau'r dramâu
    "Mae testunau'r dramâu yn amrywio'n fawr ond maent oll, yn eu ffordd eu hunain, yn canolbwyntio ar berthynas cariadon, ffrindiau neu deulu. Mae rhywbeth ynddynt i bawb - rhyw elfen y gallwn ni oll uniaethu â hi a rhyw deimlad sy'n cyffwrdd nerf ynom i gyd," meddai Lowri Roberts o Gwmni Inc.

    Mae'r cwmni yn gobeithio mynd ati i sgwennu mwy o ddramâu yn y dyfodol.


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý