1945
Wynford Vaughan Thomas (1908 - 1987) Y gohebydd rhyfel yn croesi'r Rhine yng nghwmni cadfridogion Dechreuodd Wynford Vaughan Thomas ei yrfa gyda'r Â鶹Éç yng Nghaerdydd yn 1936 fel aelod o griw darlledu allanol. Dewiswyd ef yn ddiweddarach i fod ymhlith y criw dethol o ohebwyr arbennig i ddod â hanes brwydro'r Ail Ryfel Byd i filiynau o gartrefi. Dyma'r criw cyntaf o ohebwyr rhyfel yn hanes darlledu. Enillodd Thomas y Croix de Guerre yn 1945 am ei waith. Roedd y gohebwyr ei chanol hi, yn dod â hanes y brwydro a'r lladd o El Alamein, Malta, Arnhem a thraethau Normandy. Fe gofir am adroddiadau Saesneg Wynford Vaughan Thomas o awyren Lancaster dros Berlin ac hefyd o draethau Anzio, ond yma mae'n sôn yn Gymraeg am groesi'r afon Rhein fis Mawrth 1945 yng nghwmni Montgomery - ac eraill.
Clipiau perthnasol:
O Llwyfan - Bachgen Bach o Soldiwr darlledwyd yn gyntaf 26/08/1979
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|