1935
Sam Jones (1898 - 1974) Agor stiwdio'r Â鶹Éç ym Mangor, ac agor pennod mewn darlledu o Gymru Dyma arian byw o gymeriad a anwyd yng Nghlydach, Cwm Tawe. Aeth i'r coleg ym Mangor a bu'n dysgu yn Lerpwl cyn dychwelyd i Gaerdydd i weithio ar y Western Mail. Symudodd i'r Â鶹Éç a brwydrodd yn ffyrnig i gael lle i'r Gymraeg ar y gwasanaeth yng Nghaerdydd. Er mawr siom iddo ar y pryd, anfonwyd ef i Fangor ar y 1af o Dachwedd 1935 i agor stiwdio ddarlledu yno. Er gwaetha'i bryderon cynnar, bu'n benderfyniad call a llwyddiannus dros ben, a mawr fu cyfraniad Bangor i fyd darlledu yng Nghymru dan ei arweiniad ef.
Clipiau perthnasol:
O Heddiw darlledwyd yn gyntaf 12/10/1966
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|