1958
Richard Burton a Brad Actor enwocaf Cymru mewn drama Gymraeg gan Saunders Lewis Yn Eisteddfod Glyn Ebwy yn 1958, cafwyd perfformiad o ddrama newydd Saunders Lewis, Brad. Fel teyrnged arbennig i'r awdur, penderfynodd y Â鶹Éç wahodd nifer o brif actorion y genedl at ei gilydd i ddarlledu'r ddrama, gan ei recordio yn y Gymraeg a'r Saesneg. Dyma'r tro cyntaf i rai ohonynt berfformio yn y Gymraeg. Seiliwyd y ddrama hon ar y cynllwyn i ladd Adolf Hitler, Goering a Himmler tra'r oeddynt mewn cynhadledd ym mhencadlys y Fuhrer yn Nwyrain Prwsia. Ond fe fethodd y bom â'u lladd, ac fe fethodd y cynllwyn o ganlyniad. Un o'r cynllwynwyr, y Cyrnol Caisar von Hofacker, a glywn yma, gyda Richard Burton, yr actor o Bontrhydyfen, yn chwarae'r rhan.
Clipiau perthnasol:
O Brad darlledwyd yn gyntaf 13/11/1958, 02/11/1958
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|