1930s
Annie Powell Maer Cwm Rhondda a'r comiwnydd cyntaf ym Mhrydain i gael swydd o'r fath Ym mis Mai 1979, dechreuodd y Cynghorydd Annie Powell yn ei swydd fel Maer Cwm Rhondda, y Maer Comiwnyddol cyntaf ym Mhrydain. Cyfeiriwyd ati fel "Maer Coch y Rhondda". Ganwyd hi yn y Cwm ac yno y bu ar hyd ei hoes. Codwyd hi ar aelwyd Gymraeg a Chymreig a bu'r capel yn ganolbwynt i'w magwraeth. Cafodd goleg ac aeth i ddysgu yn Nhrealaw yn y dauddegau. Wedi gweld yr holl dlodi, y di-weithdra a'r anghyfiawnder o'i chwmpas, fe gefnodd ar y capel a'r Blaid Lafur a throi at Gomiwnyddiaeth. Bu'n aelod o Gyngor Cwm Rhondda am ddeunaw mlynedd.
Clipiau perthnasol:
O Archif Â鶹Éç Cymru darlledwyd yn gyntaf 1980
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|