Faint o bobl sy'n siarad Cymraeg yng Nghymru?
Yn 么l Cyfrifiad 2011 roedd cwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.
Yn 2011 roedd 19.0% yn nodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg ac yn 2001 roedd y ffigwr cyfatebol yn 20.8%.
Er bod poblogaeth Cymru wedi tyfu ers Cyfrifiad 2001 mae nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng o 582,000 yn 2001 i 562,000 yn 2011 o boblogaeth o 2,955,841 sydd dros dair oed.
Yn 么l Cyfrifiad 2001 roedd 37.7% o blant 3-15 oed Cymru yn medru'r iaith.
Yn 2001 roedd gwahaniaeth rhwng dynion a merched gyda 19.9% o ddynion yn medru'r Gymraeg tra bod y canran o ferched yn 21.6%.
Ffynhonnell 2001: (Mae'r wefan hon wedi ei harchifo.)
Faint o bobl sy'n gallu darllen, ysgrifennu a siarad Cymraeg?
Mae 431,000 o bobl (14.6% o boblogaeth Cymru) yn gallu darllen, ysgrifennu a siarad Cymraeg yn 么l Cyfrifiad 2011.
Roedd 457,946 o bobl (16.3% o boblogaeth Cymru) yn gallu darllen, ysgrifennu a siarad Cymraeg yn 么l Cyfrifiad 2001.
Ffynhonnell 2001: (Mae'r wefan hon wedi ei harchifo.)
Ble mae'r nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru?
Yn draddodiadol ardaloedd y gorllewin a'r canolbarth sydd 芒'r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg ac yn 2001 roedd y Gymraeg ar gynnydd ar draws Cymru - gan gynnwys cymoedd y de ddwyrain, yn rhannol oherwydd twf ysgolion Cymraeg dros y blynyddoedd diwethaf.
Yn 2011 dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol bod awdurdodau lleol y gorllewin - Ynys M么n, Gwynedd, Conwy, Powys, Ceredigion, Penfro, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot - i gyd wedi gweld gostyngiad o 2% neu fwy yng nghyfran y siaradwyr Cymraeg.
Yn siroedd Gwynedd ac Ynys M么n mae'r gyfran uchaf o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg yn dal i fod: 65.4% yng Ngwynedd (69% yn 2001) a 57.2% yn Ynys M么n (62% yn 2001).
Bu'r gwymp fwyaf rhwng 2001 a 2011 yn sir Gaerfyrddin gyda'r ganran sy'n gallu siarad Cymraeg yn 43.9% yn 2011 (50.3% yn 2001).
Mae nifer y bobl yng Nghaerdydd sy'n gallu siarad Cymraeg wedi cynyddu o 32,500 yn 2001 i 36,700 yn 2011 ond roedd cynnydd sylweddol ym mhoblogaeth Caerdydd yn gyffredinol dros yr un cyfnod, felly mae cyfran y rhai sy'n gallu siarad Cymraeg yn y brifddinas wedi aros yn weddol sefydlog (11.1% yn 2011, 11.0% yn 2001).
Bu cynnydd o tua 1,000 yn nifer y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg yng Nghaerffili, er bod y gyfran wedi aros yr un fath a bu cynnydd bach yn Sir Fynwy yng nghyfran y siaradwyr Cymraeg o 9.3% yn 2001 i 9.9% yn 2011.
Blaenau Gwent yw'r sir 芒'r ganran leiaf o siaradwyr Cymraeg, 7.8%.
Yn 2001, ardal Caernarfon oedd 芒'r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Yn 2001 roedd 88% yn medru'r Gymraeg yno (gostyngiad o gymharu 芒 ffigwr Cyfrifiad 1991 oedd yn dangos bod 91% yn medru'r Gymraeg yno.)
Yr adrannau etholiadol lle roedd y canran uchaf o'r boblogaeth yn medru siarad Cymraeg yn 2001 oedd Peblig a Phen-y-groes, y ddau ohonynt yng Ngwynedd, lle roedd 88% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg.
Faint o Gymry uniaith a arferai fyw yng Nghymru?
Ar ddechrau'r 19eg ganrif roedd tua 70% o bobl Cymru'n Gymry uniaith. Erbyn cyfrifiad 1891 roedd canran y Cymry uniaith wedi gostwng i 30.4% (ac mae lle i amau cywirdeb y ffigwr hwn yn y cyfrifiad cyntaf i holi yngl欧n 芒'r Gymraeg.)
Erbyn 1901 gostyngodd i 15.1% ac erbyn 1911 i 8.7%. Roedd hyn am nifer o resymau gan gynnwys mewnfudwyr yn dod i Gymru i chwilio am waith yn yr ardaloedd diwydiannol. Ers y 1960au prin iawn yw'r Cymry Cymraeg uniaith.
Hyd heddiw, mae nifer o siaradwyr Cymraeg yn teimlo'n hapusach yn siarad eu mamiaith, er eu bod yn medru'r Saesneg.
Ffynhonnell: a rhai ffynonellau eraill
Faint o bobl sy'n siarad Cymraeg ym Mhatagonia?
Does dim ffigurau manwl gywir am y nifer o bobol sy'n siarad Cymraeg ym Mhatagonia heddiw. Ceir siaradwyr Cymraeg yn Nhrelew, Gaiman a Dolavon yn nyffryn Chubut ac yn Esquel a Threvelin yn yr Andes.
Sefydlwyd Menter Patagonia yn Ebrill 2008 a'r prif amcan yw rhoi cyfle i bobl gymdeithasu trwy'r Gymraeg, a chynnig cyfleoedd yng Nghymru ac yn y Wladfa.
Mae'r traddodiad o gynnal Eisteddfod flynyddol yn y Wladfa yn parhau hefyd.
Ffynhonnell: a rhai ffynonellau eraill
Ysgolion
Faint o blant sy'n astudio Cymraeg yng Nghymru?
Yn Ionawr 2009 roedd 99.8% o ddisgyblion mewn ysgolion cynradd yn astudio Cymraeg, naill ai fel iaith gyntaf neu ail iaith. Mewn ysgolion uwchradd, roedd 99.1% o ddisgyblion yn astudio Cymraeg fel naill ai iaith gyntaf neu ail iaith.
Ffynhonnell:
Oes rhaid i bawb ddysgu Cymraeg yn ysgolion Cymru?
Cyflwynwyd Cymraeg yn bwnc gorfodol i bob disgybl hyd at 14 oed yng Nghymru yn 1990. Yn 1999, daeth yn bwnc gorfodol i ddisgyblion hyd at 16 oed, ym mlynyddoedd 10 ac 11. Mae pob disgybl mewn ysgolion prif ffrwd yng Nghymru bellach yn astudio Cymraeg (fel iaith gyntaf neu fel ail iaith) am 12 mlynedd, o 5 i 16 oed. Nid yw'r ddarpariaeth mewn ysgolion annibynnol (preifat) mor gyffredin - mae rhai'n dysgu Cymraeg fel ail iaith ond nid oes ysgol breifat Gymraeg ddynodedig yng Nghymru (er bod un yn Llundain.) Dysgir Cymraeg fel iaith gyntaf i 14% o blant ysgolion uwchradd Cymru.
Ffynhonnell: Gwefan G芒t yr Ysgol 麻豆社 Cymru
Pryd agorwyd yr ysgol gynradd Gymraeg gyntaf yng Nghymru?
Sefydlwyd ysgol gynradd Gymraeg breifat yn Aberystwyth yn 1939. Yn 1947, yn Llanelli yr agorwyd yr ysgol Gymraeg gyntaf i gael ei hariannu ag arian cyhoeddus.
Ffynhonnell:
Pryd agorwyd yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf yng Nghymru?
Ysgol Uwchradd Glan Clwyd yn y Rhyl oedd yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf o'i math. Fe'i sefydlwyd yn 1956. Ers ei sefydlu mae nifer fawr o ysgolion uwchradd eraill wedi agor eu drysau ym mhob rhan o Gymru.
Ffynhonnell:
Mwy
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Language help
This page is about the Welsh language today. For help with the Welsh, click on the 麻豆社 Vocab button above.
Geiriadur
Adnoddau
Ar-lein
Yr adnoddau a'r meddalwedd sydd ar gael i'ch helpu i fyw eich bywyd ar y we yn y Gymraeg.