麻豆社

Cymorth gyda chadarnhau cod rhifau a llythrennau

Cyngor ar ddefnyddio delweddau 'captcha' a welir ar ffurflenni ymateb ar y we.

Beth yw 'Captcha'?

Mae 'captcha' yn ddelwedd sy'n cynnwys cyfres o rifau a llythrennau sydd wedi eu hystumio fel bod cyfrifiaduron yn cael anhawster eu deall.

Trwy ofyn i chi gadarnhau beth yw'r rhifau a llythrennau a welwch chi yn y ddelwedd, mae'r wefan yn cael sicrwydd mai person go iawn ydych chi, yn hytrach na feddalwedd awtomatig sydd efallai'n ceisio anfon negeseuon rwtsh neu 'spam'.

Rwy'n cael trafferth adnabod y rhifau a llythrennau

Weithiau dyw'r cod a gynhyrchir gan y cyfrifiadur ddim yn eglur iawn. Gallwch ail-lwytho'r dudalen i arddangos cod newydd, a cheisio eto.

Cofiwch, mae'n debygol bydd unrhyw sylwadau yn y ffurflen yn cael eu colli os wnewch chi ail-lwytho'r dudalen - ond gallech chi gop茂o'r sylwadau i'r clipfwrdd yn gyntaf, a'u gludo neu bastio yn 么l i'r ffurflen newydd wedyn.

Nid yw'n derbyn y cod ar 么l i mi deipio neges hir

Er mwyn atal cyfrifiaduron rhag ceisio datrys y captcha drosodd a throsodd, mae'r cod sy'n cael ei arddangos yn ddilys am amser penodol yn unig. Felly os fyddwch chi'n cymryd mwy na 10 munud i ddarllen y dudalen ac ysgrifennu'ch ymateb, ni fydd y system yn derbyn eich neges.

Os ydych chi am ysgrifennu neges hir, gallai fod yn haws i chi wneud hynny mewn rhaglen arall, fel eich prosesydd geiriau, a chop茂o a gludo'r neges orffenedig i'r ffurflen ar y wefan ar 么l i chi orffen. Os ydych chi eisoes wedi dechrau ysgrifennu yn y ffurflen, cop茂wch eich cyfraniad i'r clipfwrdd, ail-lwythwch y dudalen, a gludiwch y testun yn 么l.

Rwy dal yn cael trafferth

Cofiwch fod croeso i chi gysylltu 芒 ni yn uniongyrchol unrhyw amser. Edrychwch ar y wefan dan sylw am fanylion cysylltu dros ebost, testun, post neu ff么n.

Neu defnyddiwch y cyfeiriadau ebost yma i gysylltu'n uniongyrchol gyda blogwyr 麻豆社 Cymru:

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.