Daeth helyntion carwriaethol y golffiwr Tiger Woods a chur pen annisgwyl i awdur o Gymro.
Bwriad Gareth William Jones oedd galw ei nofel chwaraeon nesaf - sy'n ymhél â'r byd golff - yn Dilyn y Teigr oherwydd bod Woods yn arwr i'r prif gymeriad.
Ond yn dilyn helyntion diweddaraf Tiger Woods dywed ei fod yn prysur grafu ei ben yn awr yn meddwl am deitl arall.
"Dydw i ddim yn credu y byddai'n gweddu erbyn hyn fel eilun i blentyn ifanc sy'n dechrau chwarae golff," meddai Gareth sydd yn dal i ddyfalu sut i ddod allan o'r twll y mae golffiwr enwocaf y byd wedi ei roi o ynddo.
Nofelau rygbi
Daeth Gareth William Jones i amlygrwydd gyntaf fel awdur llyfrau i rai rhwng 10 a 12 oed gyda'r gyfres lwyddiannus Mewnwr a Maswr.
Cyhoeddwyd wyth o straeon i gyd am ddau frawd yn eu harddegau, Llion a LlÅ·r, yn chwarae rygbi - y gyntaf gan Myrddin ap Dafydd a'r gweddill gan Gareth.
Daeth y gyfres honno i ben a throdd Gareth, sy'n aelod o Glwb Golff y Borth ac Ynyslas ger Aberystwyth, at y meysydd golff am ei ysbrydoliaeth nesaf.
"Hynny am fy mod i fy hun yn chwarae golff a hefyd oherwydd bod Cwpan Ryder yn dod i Gymru," meddai.
Pan fo'r bachgen sy'n arwr y nofel yn symud i fyw mewn tŷ sy'n ffinio â maes golff crand mae'r gêm yn cael gafael arno ac er mewn trafferth cael ei 'dderbyn' gan y clwb mae'n gwneud dipyn o farc.
Y bwriad oedd i'r stori ddod i fwcwl yng Nghystadleuaeth Ryder lle byddai Tiger Woods, arwr y bachgen, yn chwarae.
"Ond rŵan bod Tiger Woods wedi bod yn hogyn drwg yr ydw i wedi gorfod ailfeddwl am hynny ac yn gorfod meddwl am deitl arall i'r nofel," meddai Gareth.
Ac fe fydd yn rhaid gwneud hynny'n go fuan gan ei bod yn fwriad cyhoeddi'r nofel yn Eisteddfod yr Urdd yn Llannerchaeron eleni.
"Dydi hi ddim yn hawdd meddwl am deitl arall a fyddai'n gafael cystal. Ar ben hynny rydw i wedi gorfod newid enw'r bachgen yn y stori hefyd," meddai.
Gwasg Carreg Gwalch fydd yn cyhoeddi'r nofel - fel y gyfres Mewnwr a Maswr - ond yn gyntaf bydd yn rhaid i Gareth gael ei hun allan o'r twll y rhoddodd Tiger Woods ef ynddo!